Ein Canolfan alwadau wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol

Mae ein Canolfan Alwadau wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Canolfan Alwadau’r flwyddyn, yng ngwobrau Cenedlaethol Canolfannau Cyswllt Cymru.

Rydan ni yn ddarparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru, gan ofalu am dros 6,300 o gartrefi a chynnig gwasanaethau i dros 14,000 o gwsmeriaid lleol. Un o’r timau hollbwysig i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni i safon uchel, i lwyddiant y cwmni, a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cwsmer o’r radd flaenaf ydi’r Ganolfan Alwadau.

Dywedodd Gwion Tomos, Cydlynydd Gwasanaethau Cwsmer:

“Rydan ni fel tîm y Ganolfan Alwadau yn hynod falch fel ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Canolfan Alwadau’r Flwyddyn. Rydan ni fel tîm yn gweithio’n ddiflino er mwyn darparu Gwasanaeth Cwsmer o safon uchel i’n cwsmeriaid ac mae cyrraedd y rhestr fer yn rhoi cydnabyddiaeth i ni am ein hymdrechion.

“Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad ei hun yng Nghaerdydd ar Fawrth 20, 2020, fydd yn brofiad gwych, hyd yn oed os nad ydan ni’n ennill, rydan ni’n falch iawn o gael ein henwebu ar gyfer y rhestr fer.”

Dywedodd Gethin Armstrong, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer Adra:

“Rydw i a holl staff Adra yn hynod falch o waith y Ganolfan Alwadau. Dyma dîm sy’n cydweithio hefo holl adrannau Adra fel cwmni, ac sydd mewn cyswllt uniongyrchol hefo’n cwsmeriaid.”

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Rydan ni yn Adra wedi sicrhau mai’r Ganolfan Alwadau ydi’n canolbwynt fel cwmni. Mae’n symbol o’n holl werthoedd a phopeth yr ydan ni eisiau bod. Rydan ni wedi dangos, wrth ddatblygu tîm cryf, gwybodus sy’n cael eu gwerthfawrogi, bod posib darparu gwasanaeth cyflym, cywir a gofalgar sy’n ymateb i anghenion ein cwsmeriaid.”

Mae naw allan o ddeg ogyswllt  cwsmeriaid hefo ni, Adra, yn digwydd yn uniongyrchol drwy’r ganolfan alwadau  – dyma sylfaen ein cwmni ac mae’n hanfodol i sut ydan ni’n darparu gwasanaethau cyflym ac effeithiol i gwsmeriaid.

Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r ganolfan wedi derbyn  bron i 100,000 o alwadau, dros 3,000 o ebyst a bron 4,000 o  lythyrau. Galwadau ffôn ydi 92% o ddulliau cyfathrebu’r cwmni ac mae’r Ganolfan Alwadau yn llwyddo i ateb 96% o’r galwadau ffôn yma.

Mae llawer o ganmoliaeth yn dod gan denantiaid i’r ganolfan alwadau. Dywedodd un cwsmer yn 2019:

“Diolch am fod yn gyfeillgar bob tro ac am drefnu cynnal y gwaith oeddwn i yn ofyn amdano, ynghynt.”

Dywedodd cwsmer arall:

“Diolch i staff y ganolfan alwadau am fod mor gwrtais a bod yn barod i helpu hefo unrhyw ymholiad.”

Mae gwahanol denantiaid hefyd wedi canmol staff penodol y ganolfan alwadau mewn sawl achos gan ddweud eu bod yn hynod glên, yn barod iawn i fod o gymorth, eu bod llawn proffesiynoldeb, cwrteisi, yn barod eu cefnogaeth a llawer iawn mwy.

Hefyd ar y rhestr fer am y wobr yma mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Principality Building Society, Legal & General Direct Sales.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch hefo ni, Adra: 0300 123 8084, ymholiadau@adra.co.uk neu ewch ar ein gwefan: adra.co.uk