Ein cynllun graddedig newydd yn creu swyddi proffesiynol newydd yng ngogledd Cymru

Rydym wedi lansio cynllun graddedig newydd sbon ac yn awyddus i recriwtio unigolion proffesiynol lleol gyda lefel sgiliau uchel, o’r brifysgol.

Rydym yn gwmni masnachol hefo calon gymdeithasol ac yn awyddus i roi cyfleoedd i unigolion brwdfrydig sydd eisiau dechrau eu gyrfa broffesiynol ar ôl astudio.

Dywedodd Mair Williams, ein Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol:

“Rydym yn hynod falch o fod yn lansio ein cynllun graddedig newydd ar gyfer pobl sydd eisiau cael eu datblygu a’u mentora am ddwy flynedd mewn rôl raddedig hefo’r nod o gynyddu i fod mewn swydd lawn-amser o fewn adran yn ddibynnol ar berfformiad a chyflawni hyfforddiant yn llwyddiannus.

“Rydym yn teimlo’n gyffrous wrthf eddwl am roi cyfleoedd newydd i unigolion ymroddedig lleol.”

Mae Kirstie Eckford yn Syrfêwr Datblygu yma yn Adra ac yn gweithio o fewn y tîm datblygu i adeiladu tai fforddiadwy i gyfarch yr angen tai yng ngogledd Cymru. Dywedodd hi:

 “Rhoddodd Adra’r cyfle i mi weithio ac astudio gradd Syrfêwr Meintiau a  gweithio ar yr un pryd.
“Rydw i bellach wedi cyflawni fy ngradd ym Mhrifysgol John Moore’s Lerpwl ac wedi graddio hefo Dosbarth Cyntaf.

“Rydw i wedi cael budd o’r cyfle ges i gan Adra a dwi’n credu bodlansio cynllun graddedig newydd yn wych. Dwi yn sicr yn annog graddedigion hefo diddordeb yn y swyddi ar gael ac yn y sector dai i fynd amdani ac ymgeisio. Dydi cyfleoedd fel hyn ddim yn codi yn aml.”

Mae’r swyddi yr ydym yn cynnig fel rhan o’r cynllun graddedig yn cynnwys Crewr Cynnwys Digidol Creadigol Graddedig i weithio o fewn y tîm Cyfathrebu yn Adra, Syrfêwr Datblygu Graddedig i weithio o fewn y tîm Datblygu yn Adra, Swyddog Cydymffurfiaeth Asedau Graddedig i weithio o fewn y tîm Asedau.

Mae hyn yn rhan o Academi Adra, prosiect wedi ei lansio gennym ym mis Chwefror 2021. Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ehangu sgiliau a chyflogadwyedd i bobl leol yng ngogledd Cymru drwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, lleoliadau graddedig a chynlluniau hyfforddai. Mae’r cynllun penodol yma ar gyfer graddedigion.Am fwy o wybodaeth am y swyddi, ewch i’r dudalen swyddi ar ein gwefan. Gallwch hefyd gysylltu drwy ffonio 0300 123 8084 neu e-bostio ymholiadau@adra.co.uk

Nodyn: Swyddi graddedig yn unig yw’r rhain. Er mwyn ymgeisio, bydd rhaid cyflwyno cais drwy’r ffurflen sydd ar gael ar ein gwefan. Ni fyddwn yn derbyn CVs.