Ein newyddlen Tenantiaid diweddaraf

Mae ein Newyddlen Tenantiaid diweddaraf wedi ei gyhoeddi a’i anfon i gartref pob un o’n tenantiaid. Mae’r rhifyn yma yn  un prysur iawn gyda:

  • gwybodaeth am wasnanaethau a chymorth sydd ar gael
  • gwybodaeth am beth rydym ni yn Adra wedi ei wneud i sicrhau diogelwch ei’n tenantiaid
  • hanesion cyd-weithio gyda partneriaid
  • straeon am ein tenantiaid yn ganol y cyfnod clo
  • ac ambell i eitem ysgafn i ddiddanu

Rydym yn cyhoeddi dau rifyn bob blwyddyn a rydym yn gobeithio caiff ein tenantiaid fydd mawr o ddarllen y rhifyn arbennig yma. Dywedodd Delyth Lloyd, ein Pennaeth Cyfathrebu:

“Mae llawer o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi yn ganol y pandemig, mae’n gallu bod yn ddryslyd iawn. Felly dan i yn gobeithio fod cael gwybodaeth defnyddiol am y banciau bwyd lleol a cymorth  i bobl sydd yn dioddef camdrin domestig yn ogystal â clywed am beth sydd yn mynd ymlaen yn Adra o fydd i bobl”

Mae copi o’r newyddlen ar gael ar ein gwefan os hoffech ei ddarllen.

Darllen Newyddlen Haf 2020