Adra staff giving presentation in school

Enw swyddogol safle Datgarboneiddio Penygroes wedi cadarnhau

Mae enw swyddogol safle Datgarboneiddio Penygroes wedi cael ei ddewis. Enw’r safle yw Tŷ Gwyrddfai.
Fe gafodd ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle’r cyfle i roi eu barn a dewis eu hoff enw yn dilyn creu rhestr fer ar gyfer y safle datgarboneiddio.
Rhannodd ddisgyblion blwyddyn 10, 11, 12 ac 13 Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, eu barn gan bleidleisio am yr enw Tŷ Gwyrddfai, sy’n chwarae ar eiriau’r enw Gwyrfai sydd yn arwyddocaol yn lleol. Roedd Gwyrfai yn arfer bod yn enw ar ardal wledig yn sir weinyddol Sir Caernarfon rhwng 1894 a 1974, mae’r enw hefyd â chysylltiad â’r Afon Gwyrfai. Mae’r gwyrdd yn symbol ar gyfer yr amgylchedd ac yn cyfleu beth mae Adra a’u partneriaid yn gobeithio cyflawni drwy ddatgarboneiddio. Mae Tŷ yn amlwg yn gysylltiedig â gwreiddiau cryf Adra fel cwmni a darparwr tai.
Mae’r cyn ffatri bapur, oedd yn cael ei alw’n Northwood cynt, yn rhan o bartneriaeth datgarboneiddio unigryw Adra sy’n adfywio cymunedau ar draws gogledd Cymru a fydd yn creu dros 130 o swyddi lleol.
Dywedodd Paul Painter, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Trwsio, Cynnal a Chadw, sy’n arwain ar Dŷ Gwyrddfai:
“Rydym mor falch o’n partneriaeth aml asiantaethol, y cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, yn sefydlu Canolfan Rhagoriaeth ranbarthol ym maes Datgarboneiddio ym Mhenygroes.
“Rydym yn teimlo’n hynod o gyffrous i gyhoeddi fod gennym nawr enw swyddogol a’r enw hwnnw yw Tŷ Gwyrddfai. Rydym yn edrych ymlaen at agor y swyddfeydd a’r safle i ddatblygu ar ddatgarboneiddio, ymchwil, sgiliau a mwy.
“Hoffwn ddiolch i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle a roddodd groeso cynnes i mi pan nes i ymweld i sgwrsio am y gwahanol gyfleoedd gyrfa sy’n bosib yn Nhŷ Gwyrddfai ac Adra wrth fynd ymlaen.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Weithredwr Adra, Iwan Trefor Jones:
“Rydym yn cydweithio i adfywio cymunedau yng Ngwynedd. Rydym yn falch o fod yn arwain ar y bartneriaeth gref fydd yn dod â chyfleoedd swyddi cynaliadwyedd, sgiliau newydd a chadwyn gyflenwi fwy cadarn ar gyfer yr ardal.
“Bydd gweithgareddau’r bartneriaeth hefyd yn cyfarch tlodi tanwydd a lleihau ôl troed carbon.
“Rydw i’n falch fod gennym bellach enw swyddogol ar gyfer y prosiect a’r safle. Byddwn yn parhau gyda’r cyswllt rhwng plant a phobl ifanc yn natblygiad y prosiect hwn.”