Diogelwch Tân
Mae larwm tân ym mhob un o’n cartrefi ni.
Eich cyfrifoldeb chi yw profi’r larwm tân bob wythnos.
Cysylltwch efo ni os oes problem gyda’ch larwm tân chi.
Bydd Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru yn cysylltu â phob cwsmer newydd neu cwsmer sydd wedi cyfnewid tŷ i drefnu i ddod draw i wneud archwiliad diogelwch yn eich cartref.
Beth i’w wneud mewn tân
Os oes tân yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn gwybod yn union pa gamau sydd angen i chi eu cymryd.
Mae gennym drefniadau sy’n dibynnu ar y math o gartref yr ydych yn byw ynddo.
Cartrefi Addas i Aros
Mae gennym gartrefi ‘Addas i Aros’ sydd wedi eu hadeiladau er mwyn gwneud yn siŵr fod tân yn aros yn y lle mae wedi cychwyn.
Os yw eich cartref chi yn un ‘Addas i Aros’ bydd yn dweud yn eich llawlyfr tenantiaeth, a bydd ein swyddogion yn egluro hyn i chi wrth i chi symud fewn, bydd rhaid arwyddo cytundeb i gadarnhau eich bod yn deall hyn. Fel arfer fflatiau neu llety cysgodol yw’r rhain.
Bydd ‘Rhybudd Gweithredu Tân’ yn yr ardaloedd cymunedol hefyd.
Fel arfer mae’n golygu ei bod yn ddiogel i chi aros yn eich fflat os oes tân mewn fflat arall yn yr un bloc a chi.
Mae hyn yn golygu bod angen i chi gofio tri pheth os oes tân yn eich fflat neu ardaloedd cymunedol o’r bloc yma.
- os oes tân yn cynnau yn eich fflat, anfonwch bawb allan, caewch y drws y tu ôl i chi a gadewch yr adeilad, a phan mae’n ddiogel, ffoniwch 999.
- os oes tân yn cynnau mewn ardal gymunedol ac os ydych chi yno, gadewch yr adeilad gan ddefnyddio’r llwybr mwyaf diogel, a phan mae’n ddiogel, ffoniwch 999.
- os oes tân yn cynnau mewn fflat arall, arhoswch yn eich fflat oni bai bod eich fflat yncael ei effeithio gan dân neu fwg, neu os nad ydych yn teimlo yn ddiogel.
Cartrefi Gwacáu’r adeilad
Ar gyfer rhai fflatiau mae gennym bolisi ‘Gwacáu’r Adeilad’ sy’n golygu ein bod wedi gosod system darganfod tân yn yr ardaloedd cymunedol, system sydd wedi’i chysylltu i banel larwm tân.
Os yw eich cartref chi yn un ‘Gwacáu’r Adeilad’ bydd yn dweud yn eich llawlyfr tenantiaeth, a bydd ein swyddogion yn egluro hyn i chi wrth i chi symud fewn, bydd rhaid arwyddo cytundeb i gadarnhau eich bod yn deall hyn. Fel arfer fflatiau neu llety cysgodol yw’r rhain
Bydd ‘Rhybudd Gweithredu Tân’ yn yr ardaloedd cymunedol hefyd.
Mae hyn yn golygu bod angen i chi gofio tri pheth os oes tân yn eich fflat, larymau tân yn canu yn eich fflat neu mewn ardaloedd cymunedol o’r bloc yma:
- rhaid i bawb fynd allan o’r adeilad drwy’r allanfa diogel agosaf a ffonio 999.
- ewch i’r “Man Ymgynnull Tân”
- arhoswch yno am y Gwasanaeth Tân.
Os nad yw eich cartref chi yn gartref ‘Diogel i Aros’ neu cartref ‘Gwacáu’r Adeilad’ a mae tân yn eich cartref:
- ewch allan
- peidiwch a chasglu unrhyw nwyddau personol
- galwch 999
- arhoswch allan tan mae’r Gwasanaeth Tân ag Achub wedi cyrraedd a dweud ei bod yn ddiogel i chi fynd nol mewn