Gogledd Cymru ar y blaen wrth i ni lansio ein strategaeth ddatgarboneiddio ar y cyd â’r Gweinidog Tai

Rydan ni yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd i ddatgarboneiddio ein cwmni a’r cartrefi yr ydym yn eu darparu ac i yrru dyfodol cynaliadwy i gymunedau ledled Gogledd Cymru, gan lansio ei strategaeth datgarboneiddio ar y cyd â’r Gweinidog Tai Cymru, Julie James.

Rydan ni ymhlith y cymdeithasau tai cyntaf yng Nghymru i ddangos ymrwymiad i ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi erbyn 2030 ac mae’n lansio ei strategaeth yr wythnos hon yng nghynhadledd rithiol Homes sy’n cael ei ddarlledu ar draws y DU.

Rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau adfer economaidd gwyrdd a chydweithio â phartneriaid eraill i sicrhau effaith barhaol ar yr agenda argyfwng hinsawdd, gan fuddsoddi mewn cymunedau cynaliadwy i leihau allyriadau tŷ gwydr a gwella effeithlonrwydd ynni i drigolion ar draws ei 6,400 o gartrefi.

Mae dwy agwedd i’n strategaeth sef datgarboneiddio ein gweithgareddau busnes a’r stoc dai presennol a newydd, a fydd yn cael eu cynhesu a’u pweru gan ffynonellau ynni glân. Bydd y rhain yn cynnwys ynni’r haul, defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer a datblygu cartrefi i’r safon Passivhaus di-garbon uchaf posib, lleihau colli gwres a lleihau costau i breswylwyr.

Bydd ein cynlluniau datblygu uchelgeisiol o ddarparu 1,200 o gartrefi newydd fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf yn defnyddio’r Dulliau Adeiladu Modern diweddaraf, gan ddefnyddio busnesau bach a chanolig lleol i leihau ei ôl troed carbon, ynghyd â chreu swyddi a darparu hyfforddiant i weithwyr a fydd yn datblygu sgiliau newydd i ddarparu cartrefi di-garbon.

Gyda chefnogaeth Cronfa Ôl-ffitio Optimeiddiedig Llywodraeth Cymru, rydym wedi cychwyn ei beilot cychwynnol i ôl-ffitio 50 o gartrefi i ddatblygu’r dull gorau o ôl-ffitio ei holl stoc. Mae ôl-ffitio ei holl stoc yn fuddsoddiad tymor hir o tua £120 miliwn ac mae disgwyl iddo ddechrau dros y tair blynedd nesaf, gyda chefnogaeth gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru: “Rwy’n falch iawn o weld ymrwymiad Adra i fynd i’r afael â’n hargyfwng hinsawdd a lleihau biliau i denantiaid ledled Gogledd Cymru. Mae hwn yn amser cyffrous i’r sector tai wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu cartrefi mwy fforddiadwy, di-garbon, gan gefnogi’r diwydiant adeiladu yng Nghymru a chreu cyfleoedd hyfforddi. Edrychaf ymlaen at weld yr ôl-ffitio a’r gwaith adeiladu newydd yn digwydd.”

Ychwanegodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yma yn Adra: “Rydym yn falch o lansio ein strategaeth datgarboneiddio ar y cyd â’r Gweinidog Tai yn Homes UK; mae cael cartref cynnes, diogel a fforddiadwy yn bwysicach nag erioed y dyddiau hyn. Rydym yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd fel rhan o’n cyd-ymrwymiad i Les Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Yn Adra, rydym yn ystyried bod lleihau’r defnydd o ynni yn allweddol i helpu i leihau costau rhedeg cartrefi ein preswylwyr a lleihau tlodi tanwydd sydd ar ei fwyaf yn ystod misoedd y gaeaf ac yn ystod y pandemig hwn.

“Mae Adra mewn sefyllfa dda i gydweithio gyda nifer o randdeiliaid. Yng Ngwynedd, mae rhwydwaith gref o fentrau cymdeithasol ac elusennau ynni cymunedol yr ydym eisoes wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth â nhw. Mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth.”

Ychwanegodd Linda Campbell, Hyrwyddwr Datgarboneiddio Bwrdd Adra: “Bydd ein strategaeth datgarboneiddio newydd yn dod â buddion o ran swyddi, sgiliau a gweithgaredd economaidd newydd ac yn rhyddhau niferoedd cynyddol o drigolion o grafangau bygythiad tlodi tanwydd.”