Llun o ddigwyddiad cyhoeddi adroddiad Gwerth Cymdeithasol Adra

Golau gwyrdd i adroddiad Gwerth Cymdeithasol Adra

Fe wnaeth gwaith Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru a’i phartneriaid dros y 12 mis diwethaf gynhyrchu dros £5.7 miliwn o werth cymdeithasol, yn ôl adroddiad a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (dydd Mawrth, Awst 8).

Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath a gynhyrchwyd gan Adra, fel ffordd o adnabod sut mae cymunedau ar draws Gogledd Cymru wedi elwa o’r holl waith datblygu a chynnal a chadw a wnaed, yn ogystal â gwasanaethau i gefnogi tenantiaid. Mae’r elfen gwerth cymdeithasol yn adlewyrchu’r gwerth cadarnhaol y mae’r busnes yn ei greu i’r economi leol, cymunedau a’r gymdeithas ehangach.

Cyfrifwyd y ffigwr gwerth cymdeithasol o £5.7 miliwn drwy edrych ar ystod ehangach o faterion fel digartrefedd, mynd i’r afael ag unigrwydd, iechyd meddwl, tlodi, cyflogaeth a hyfforddiant, creu cymunedau mwy diogel, caffael a datgarboneiddio.

Dyma rai o’r penawdau allweddol dros y 12 mis diwethaf:

  • Buddsoddwyd £44 miliwn mewn adeiladu 118 o gartrefi newydd ar draws y rhanbarth a gwariwyd £12.1 miliwn ar uwchraddio 494 o’i eiddo presennol.
  • Gwariwyd £39 miliwn gyda chyflenwyr lleol
  • 361 o bobl leol yn cael eu cyflogi gan Adra
  • Cefnogwyd 419 o bobl wedi eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gam-drin domestig gan ein Tîm Gwasanaethau Bro
  • 151 gartrefi wedi cael gwaith effeithlonrwydd ynni
  • £724,000 wedi’i fuddsoddi ar addasu cartrefi

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion am brosiectau yng Ngogledd Cymru a gefnogwyd gan Adra a’i bartneriaid, gan gynnwys ymgyrchoedd i ddenu mwy o ferched a merched ifanc i’r sectorau tai ac adeiladu ac ymgyrch i godi proffil y Gymraeg yn rhai o’n hysgolion uwchradd.

Mae nifer o astudiaethau achos hefyd wedi’u cynnwys sy’n amlygu sut mae unigolion a chymunedau wedi elwa ar ôl i gymorth gael ei ddarparu gan Adra.

Dywedodd Rhys Parry, Cyfarwyddwr Adnoddau Adra: “Mae’n bleser gennym gyflwyno ein Hadroddiad Gwerth Cymdeithasol cyntaf sy’n dangos y gwaith sylweddol sydd wedi’i gyflawni ym mhob rhan o’r busnes a hefyd gyda’n partneriaid dros y deuddeg mis diwethaf, a’r gwerth cymdeithasol y mae’r gwaith hwnnw wedi’i gynhyrchu.

“Mae ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi o safon y gall pobl fod yn falch ohonyn nhw; i gefnogi ein cymunedau a phobl i ffynnu; i ddatgarboneiddio ein cartrefi, i wella profiad y cwsmer a chryfhau’r busnes.

“Rydym am i’n gwaith gael effaith gadarnhaol, nid yn unig ar ansawdd bywydau pobl, ond hefyd eu hamgylchedd a’u dyfodol ac rydym yn ceisio sicrhau bod ein gweithgarwch busnes yn gwneud y gorau o’r gwerth cymdeithasol ac effaith y buddsoddi sydd wedi’i wneud. Mae gan denantiaid yr hawl i fyw mewn cymunedau sy’n ffynnu, gyda mynediad at swyddi a chyfleoedd o ansawdd drwy ein rhaglenni hyfforddi.

Dywedodd Ceri Ellis-Jackson, Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol yn Adra:  Rydym am greu cymunedau lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

“Rydym am sicrhau bod ein holl waith fel sefydliad a chontractwyr sy’n gweithio i ni ac ar ein rhan yn darparu’r gwerth cymdeithasol ehangach yn fwy na thrwsio, cynnal a chadw neu frics a morter yn unig.

“Rydym yn gyflogwr sylweddol yn yr ardal ac rydym o’r farn ein bod yn chwarae rhan bwysig yn nhwf yr economi rhanbarthol drwy gyflogi pobl leol sy’n byw ac yn gwario yn y cymunedau lleol. Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Drwy weithio gyda’n tenantiaid, staff, partneriaid a’r cymunedau ehangach, rydym yn gwneud gwahaniaeth ac mae’r adroddiad hwn yn dathlu cyflawniadau’r flwyddyn ddiwethaf. Drwy gydweithio gyda’n prif randdeiliaid a phartneriaid, rydym yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl bob diwrnod o’r flwyddyn.”