Artist impression of how the houses in Penrhyn Bay will look

Golau gwyrdd i ddatblygiad tai diweddaraf Adra yn sir Conwy

Mae cynlluniau ar gyfer cynllun gwerth £5.9 miliwn i ddatblygu 21 o dai fforddiadwy newydd sbon yn sir Conwy wedi cael eu cymeradwyo gan Gymdeithas Tai Adra.

Bydd 21 o gartref yn cael eu datblygu ym Mhlas Penrhyn, Bae Penrhyn ger Llandudno a byddant yn cynnwys un byngalo dwy ystafell wely wedi’i addasu’n arbennig; pedwar byngalo 2 ystafell wely i rai dros 55 oed; wyth tŷ 2 ystafell wely ac wyth tŷ 3 ystafell wely. Byddant yn cynnwys cymysgedd o eiddo rhent cymdeithasol ac eiddo rhent canolraddol.

Mae Beech Developments (NW) Ltd wedi’u penodi fel datblygwyr, gyda’r gwaith yn symud ymlaen yn dda ar y safle. Disgwylir i’r cartrefi newydd gael eu cwblhau erbyn mis Ebrill 2025.

Dyma’r datblygiad tai cyntaf i Adra ym Mae Penrhyn, gyda datblygiadau eraill eisoes wedi’u creu gerllaw yn Neganwy a Chyffordd Llandudno. Erbyn diwedd 2023, roedd gan Adra 204 eiddo yn ardal sir Conwy.

Dywedodd Huw Evans, Pennaeth Datblygu Adra: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r cynnydd gyda’r datblygiad newydd hwn ym Mae Penrhyn.

“Roedd gwaith wedi dechrau ar y safle, ond aeth y datblygwyr blaenorol i ymddatod yn wirfoddol. Roedd hyn yn golygu bod angen i Adra ystyried ein hopsiynau wrth symud ymlaen.

“Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i ddatblygu cartrefi y gall pobl fod yn falch ohonynt a bydd y cynllun hwn yn helpu i ateb y galw am dai fforddiadwy yn y sir. Bu galw arbennig o uchel am eiddo rhent canolraddol ar ein safleoedd presennol yn y sir.

“Bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn elwa o ddull ffabrig yn gyntaf a dyluniad Tŷ Goddefol (Passive House) a fydd yn darparu costau gwresogi isel iawn i breswylwyr y dyfodol, ond bydd hefyd yn ategu ymdrechion datgarboneiddio Adra i leihau allyriadau carbon ar draws ein holl stoc tai.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd yn ei flaen ar y safle ac yn cychwyn cymryd siâp dros y misoedd nesaf”.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol, cysylltwch â Datrysiadau Tai Conwy: 0300 124 0050 / Tai Cymdeithasol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Os oes gan unrhyw un diddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Tai Teg: www.taiteg.org.uk