Llun o ddatblygiad Frondeg

Gwaith Frondeg ar fin ail-gychwyn

Mae Cymdeithas Dai Adra wedi cyhoeddi y bydd gwaith o ddatblygu safle Frondeg ym Mhwllheli am ail-gychwyn yr wythnos hon.

Roedd Adra wedi cyflogi cwmni RL Davies fel y prif gontractwr ar gyfer y datblygiad ar Ffordd Ala, Pwllheli gyda’r bwriad o godi 28 fflat rhent cymdeithasol ar gyfer unigolion 55+  – 18 fflat dwy loft a 10 fflat un lloft.

Fis Chwefror, mi gyhoeddwyd fod cwmni R L Davies wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, hanner ffordd drwy gwblhau’r gwaith  ac ers hynny mae Adra wedi bod yn chwilio am gontractwr newydd i ymgymryd â’r gwaith.

Bydd cwmni OBR yn symud ar y safle’r wythnos nesaf a’r gobaith yw y bydd gweddill y gwaith yn cymryd hyd at 20 wythnos i’w gwblhau, gyda’r gobaith fydd tenantiaid yn cael symud i’w cartrefi newydd ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Adra:  “Roedd hi’n siomedig clywed am RL Davies yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ac yn newyddion hynod o drist i’w staff a’i teuluoedd.

“Ers y cyhoeddiad, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ganfod contractwyr newydd, gan fod y gwaith hanner ffordd tuag at ei gwblhau.  Rydym yn ffodus o fod wedi sicrhau cwmni OBR ar gyfer y gwaith ac mi fyddan nhw’n defnyddio nifer o isgontractwyr oedd yn gweithio ar y prosiect.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn datblygu ymhellach ac yn diolch i ddarpar denantiaid am eu hamynedd a chydweithrediad”.