Gwaith wedi dechrau i ddarparu cartrefi newydd yng Nghaernarfon

Rydym yn adeiladu 17 o gartrefi newydd ar safle Cae’r Glyn yng Nghaernarfon. Mae’r gwaith ar y sylfaeni wedi dechrau mewn partneriaeth â contractiwr lleol rydym wedi penodi sef DU Construction.  

Rydym yn ymateb i’r sefyllfa dai yng Ngwynedd  wrth ddarparu tai fforddiadwy a chymdeithasol er mwyn cyfarch yr angen tai lleol. Rydym yn falch o fod yn cydweithio yn agos gyda Cyngor Gwynedd ar y cynllun yma a rhai eraill tebyg yn Ngwynedd. 

Mae ein rhaglen datblygu wedi gweld twf sylweddol ac wedi tyfu wrth gydweithio â chontractwyr lleol fel DU Construction, gan gefnogi busnesau bach a Chanolig a’r gadwyn gyflenwi leol, gan gyfrannu i’r economi lleol. 

Dywedodd Daniel Parry, ein Cyfarwyddwr Datblygu: 

“Mae Adra yn tyfu drwy adeiladu tai, creu swyddi a chyfleoedd ar draws Gwynedd a gogledd Cymru. 

“Rydym wedi bod yn gwneud ymdrech fawr i greu a datblygu mwy o dai am bris fforddiadwy i gyfarch yr angen tai lleol yng ngogledd Cymru ac yn benodol yng Ngwynedd.” 

Mae cymysg o dai rhent cymdeithasol a rhent canolraddol a llecyn gwyrdd cymunedol yn yr ardal hefyd.  

Os oes gan rhywun ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol, mae angen iddynt gofrestru gyda Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd:

Os oes gan rhywun ddiddordeb yn y tai rhent canolraddol, mae angen cofrestru gyda Tai Teg.