Gwaith yn dechrau i ddarparu cartrefi newydd i bobl hŷn yn ardal Pen Llŷn

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun fydd yn cynnig cartrefi cysurus ac addas i bobl hŷn lleol yn ardal Llŷn.

Rydym yn datblygu 28 o fflatiau pwrpasol ar hen safle adeiladau Cyngor Gwynedd yn Frondeg, Pwllheli, sydd mewn lleoliad cyfleus gerllaw canol y dref.

Cynllun ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a ni ydi’r datblygiad. Mae’r datblygiad yn ymateb i’r prinder llety addas i bobl leol 55 oed a hŷn a / neu ar gyfer unrhywun sydd ag anghenion gofal.

Dywedodd Daniel Parry ein Cyfarwyddwr Datblygu :

“Rydan ni’n falch iawn o weld y gwaith yn dechrau’n swyddogol ar safle Frondeg, Pwllheli er mwyn gallu darparu cartrefi cyfleus ac addas, o ansawdd, i bobl leol sydd eu hangen.

“Rydan ni fel cwmni yn tyfu ar draws gogledd Cymru gan ddarparu tai, cyfleoedd a chyfarannu at yr economi ac mae pobl Gwynedd yn dal i fod yn flaenoriaeth ac yn bwysig iawn i ni.

“Rydym yn falch o fod yn cydweithio hefo Cyngor Gwynedd ar y datblygiad yma yn ogystal â chwmni adeiladu RL Davies o Ogledd Cymru.”

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Gofal Cyngor Gwynedd: “Mae’r datblygiad newydd yma yn gam pwysig iawn ymlaen wrth ymateb i anghenion pobl leol hŷn ym Mhwllheli a’r ardal o gwmpas.

“Wrth gydweithio efo’n partneriaid yn Adra, mi fyddwn ni’n cynnig darpariaeth newydd a fydd yn gwneud cyfraniad holl bwysig at gynnal a chefnogi annibyniaeth pobl hŷn.

“Ac wrth ail-ddefnyddio safle gwag yng nghanol y dref mi fydd y prosiect yn cynnig hwb sylweddol i economi a bywiogrwydd Pwllheli hefyd.”

Er na fydd gofal 24-awr ar y safle, bydd yr unedau ynddo o safon uchel iawn ac wedi eu cynllunio’n unswydd ar gyfer pobl hŷn. Bydd yr adeilad pwrpasol yn cynnwys lifft, ac fe fydd hefyd fflat penodol ar y llawr gwaelod i rai ag anghenion penodol. Bydd ystafell gymdeithasol yn ogystal, lle gall y trigolion fwynhau cwmni ei gilydd.

Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ab Iago: “Mae’n bwysig dweud fod hwn yn gynllun ar gyfer yr holl ardal leol.

“Efallai fod rhai pobl hŷn yn rhai ardaloedd yn gallu teimlo’n ddigon ynysig ac unig, ac mi fydd y datblygiad newydd yma’n cynnig dewis arall iddyn nhw lle gallan nhw fyw mewn cymuned o bobl yng nghanol y dref.

“Mi fydd Cynllun Gosod Lleol yn cael ei lunio ar gyfer y cartrefi hyn, fel bod ymgeiswyr addas sydd â chysylltiad lleol efo ardal Pen Llŷn yn cael blaenoriaeth.

“Felly mi fyddwn i’n annog ymgeiswyr addas i gofrestru efo Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd er mwyn cael eu hystyried am le.”

Dywedodd Linda Campbell, tenant ac aelod o’n Bwrdd: “Mae’n newyddion gwych bod Adra yn datblygu 28 o gartrefi ym Mhwllheli ar safle Frondeg, er mwyn diwallu anghenion tai lleol ar gyfer bobl hŷn yn y dref. Bydd cynllun gosod lleol yn ein helpu hefyd i flaenoriaethu pobl sydd â chysylltiad lleol ag ardal Pen Llŷn.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau er mwyn gwireddu ein cynlluniau a chreu cymuned gefnogol o bobl hŷn o fewn y fflatiau yma yng Ngwynedd, wrth gydweithio hefo Cyngor Gwynedd.”

 

I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Thîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd:

odiadau:

Mae’r arian i adeiladu’r datblygiad wedi ei ddarparu drwy Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.