Aerial view of the Plas Newydd Farm housing development

Gwaith yn dirwyn i ben ar ddatblygiad tai newydd ym Mhrestatyn

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, ar fin cwblhau’r gwaith o ddatblygu 102 o gartrefi ar hen dir fferm ym Mhrestatyn.

Y contractwr ar gyfer y datblygiad yw Castle Green Homes.

Bydd 46 o’r eiddo at ddibenion rhent cymdeithasol, gyda’r 56 arall yn unedau rhent canolradd.

Mae’r datblygiad cyfan yn cynnwys cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely, yn ogystal â byngalos 2 a 4 ystafell wely.

Mi fydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau erbyn y gwanwyn, gyda’r preswylwyr olaf i symud mewn cyn y Pasg.

Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn falch o gwblhau ein prosiect datblygu diweddaraf ym Mhrestatyn yn llwyddiannus.

“Trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid cymunedol, rydym wedi darparu unedau tai fforddiadwy o ansawdd uchel a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o unigolion a theuluoedd.

“Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn mynd i’r afael â’r angen dybryd am dai fforddiadwy yn ein cymuned, ond hefyd yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i unigolion a theuluoedd fyw ynddo.

“Rydym wedi ymrwymo i barhau â’n hymdrechion i greu mwy o opsiynau tai fforddiadwy, sy’n adlewyrchu’r angen lleol, rhanbarthol a chenedlaethol am dai.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol cofrestrwch gyda SARTH: 01824 712911 / https://www.denbighshire.gov.uk/cy/tai-digartrefedd-a-landlordiaid/tai-cymdeithasol/ymgeisio-am-dai-cymdeithasol.aspx

Os oes gan unrhyw un diddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Tai Teg: www.taiteg.org.uk