Photo of the new housing estate in Caernarfon

Gwaith yn dod i ben ar ddatblygiad tai newydd yng Nghaernarfon

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, ar fin cwblhau’r gwaith o ddatblygu 17 o gartrefi ar safle ger Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon. Y contractwr ar gyfer y datblygiad yw DU Construction.

Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolraddol a rhent cymdeithasol ar gyfer trigolion lleol, gyda’r gobaith y bydd y preswylwyr cyntaf yn symud i mewn i’r datblygiad yn fuan yn y flwyddyn newydd.

Enw ar y stad newydd yw Rhandir Mwyn, i adlewyrchu cyn ddefnydd y safle.

Dywedodd Elliw Owen, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn hynod o falch o allu darparu cartrefi o safon i bobl leol, mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn ardal, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.

“Bydd yr holl dai ar y datblygiad gyda thystysgrif perfformiad egni (EPC) o A, gyda phaneli solar ac yn cael eu gwresogi gyda Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer.

“Yn ogystal, mi fydd bob eiddo gyda phwynt gwefru car (EV Charger) fel rhan o gynllun peilot gan Adra, er mwyn gweld os byddent o fudd i’r preswylwyr.”