Grapheg yn dweud 'Toriad Trydan? Ffoniwch 105'

Gwasanaethau Blaenoriaeth SP Energy Network

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth SP Energy Network?

Os bydd toriad pŵer, mae timau o SP Energy Networks yn gweithio bob awr o’r dydd i adfer eich trydan cyn gynted â phosibl. Maent yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn arbennig o ofidus i rai cwsmeriaid a dyna pam eu bod yn cynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid sy’n teimlo bod angen ein cymorth arnynt.

Gallwch ymuno â’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth os ydych:

  • Dros 60 oed
  • Bod ag angen cyfathrebu arbennig
  • Yn dibynnu ar drydan ar gyfer gofal cartref neu feddygol
  • Bod â phlentyn dan 5 oed
  • Bod â salwch cronig
  • Neu dim ond teimlo bod angen ychydig o help ychwanegol arnoch

Gallwch hefyd gofrestru os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch am gyfnod byr o amser e.e. os ydych chi’n gwella ar ôl llawdriniaeth, os ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

Ni fydd bod ar y gofrestr o reidrwydd yn golygu y gall y cwmni adfer eich pŵer yn gyflymach, fodd bynnag byddwn yn ceisio cysylltu â chi yn rhagweithiol os ydym yn gwybod am broblem yn eich ardal.

Os hoffech gael eich ychwanegu at y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, llenwch ffurflen gyflym neu anfonwch neges destun PSR i 61999. Bydd y cwmni fel arfer yn cysylltu â chi o fewn 48 awr.