Adra Staff, Claytons staff, local councillor and a tenant from maes Padarn receving an afternnon tea box

Gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi yn Adra

Mae ddydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod pwysig yng Nghymru, gan mai Dewi Sant yw Nawdd Sant Cymru. 

Mae aelodau ein tîm Cymunedol wedi bod yn hynod brysur yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol i nodi’r achlysur drwy wythnos diwethaf. 

Ym Maes Padarn, cafodd bocsys te prynhawn eu rhannu gyda’n cwsmeriaid gan ein contractwr, sef W.F. Claytons.  Diolch i Plas Coch, Llanberis am greu’r bocsys tê prynhawhn. Buodd ein staff ni yn Adra, staff Claytons a’r Cynghorydd lleol yn rhannu’r bocsys yn y gymuned ar ddydd Gŵyl Dewi.   

Parhaodd y dathliadau a’r gweithgareddau Dewi Sant ar yr ail o Fawrth hefyd wrth i Adra gydweithio â Menter Iaith Bangor a chael sesiwn blasu Dysgu Cymraeg gan Mei Owen o Cyngor Gwynedd i rai o’n tenantiaid yn Llys Dewi Sant, yn ogystal â phaned a chacen, daeth disgyblion ysgol gynradd leol i ganu hefyd ac fe gawsant Gwis Dydd Gŵyl Dewi.  

Aeth y dathliadau a gweithgareddau ymlaen at ddiwedd yr wythnos wrth i ni drefnu Te Prynhawn ym Mhenygroes, gan gydweithio hefo’r Orsaf. Cawsant gwis dydd Gŵyl Dewi, cacenni cri a sgons. Diolch i’n holl bartneriaid a’n staff gwych am drefnu’r gweithgareddau yma i’n cwsmeriaid a thenantiaid. 

Afternoon tea boxes with cakes from Plas Coch