Gwobr am Ragoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer

Rydym wedi derbyn gwobr am Ragoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer eto eleni.

Ar ôl asesiad diweddar gan y Ganolfan Asesu, rydym wedi derbyn cadarnhad ein bod yn parhau i gyrraedd Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer, ac felly ein bod yn derbyn y wobr fawreddog yma eto.

Dywedodd Gethin Armstrong:

“Rydym yn falch iawn o bawb yn Adra am weithio’n galed i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i roi gwasanaeth cwsmer ardderchog i’n cwsmeriaid ac mae derbyn y wobr yma yn dangos bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod.

“Rydym hefyd wedi derbyn Achrediad + am gysylltu ein tenantiaid bregus a chadw mewn cysylltiad hefo nhw i sicrhau eu bod yn iawn yn ystod y Clo Mawr ac am fod â pherthynas weithio dda hefo’r heddlu er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Am fwy o wybodaeth am Ragoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer, ewch i: