Gwybodaeth Coronafeirws

Dechreuodd yr achos o goronafeirws yn Wuhan, Tsieina, yn ystod mis Rhagfyr 2019. Er ei fod wedi aros yn Tsieina rhan fwyaf, mae coronafeirws wedi cyrraedd cyn belled â UDA, Ffrainc, Yr Almaen, Awstralia, Japan, De Korea, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Y Ffindir, a’r DU.

Mae’r math yma o goronafeirws yn cael ei adnabod fel coronafeirws Newydd (2019-nCoV).

Os ydych yn denant Adra ac wedi gorfod ynysu eich hunain, oherwydd pryderon Crornafeirws, a wnewch chi roi gwybod i ni yn Adra os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu trefnu’r gefnogaeth a gofal mwyaf addas ar eich cyfer, ac er mwyn i ni fod yn ymwybodol. Ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar eich tenantiaeth. Cysylltwch er mwyn cael sgwrs: 0300 123 8084.

Dylech ynysu eich hunain os oes siawns bod gennych chi goronafeirws, ffoniwch y rhif 111 ac ynyswch eich hun oddi wrth bob eraill.

Mae hyn yn golygu y dylech:

  • Aros adref
  • Peidiwch â mynd i’r gwaith
  • Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na thacsis
  • Gofynnwch i ffrindiau, aelodau teulu neu wasanaethau dosbarthu i wneud / dosbarthu eich neges
  • Trïwch osgoi gael unrhyw ymwelwyr yn eich cartref – Mae’n iawn i ffrindiau, teulu neu yrwyr cyflenwi i ddod â’ch bwyd at y drws

Cyngor i chi a’ch teulu

Mae Prif Swyddog Meddygol y DU wedi codi risg y cyhoedd o isel i cymhedrol. Ond mae’r risg i unigolion yn parhau i fod yn isel.

Mae gweithwyr proffesiynol Iechyd yn ceisio cysylltu hefo unrhyw un sydd wedi bod mewn cyswllt agos hefo bobl sydd gan goronafeirws.

Symptomau Coronafeirws

Y symptomau ar gyfer coronafeirws ydi:

  • Tagu
  • Tymheredd uchel
  • Byr eich gwynt

Ond dydi’r symptomau yma ddim yn golygu bod gennych chi’r salwch o reidrwydd.

Mae’r symptomau yma yn debyg i salwch eraill sy’n fwy cyffredin, fel annwyd a ffliw.

Does ‘na ddim brechlyn ar gyfer coronafeirws ar hyn o bryd, serch hyn mae ‘na bethau gallwn ni gyd wneud er mwyn ei rwystro rhag ledaenu.

Gallwch leihau eich risg o ddal / lledaenu coronafeirws wrth:

  • Osgoi cyswllt uniongyrchol rhwng eich dwylo a’ch llygaid, trwyn a cheg
  • Osgoi cysylltiad gyda bobl sydd â salwch resbiradol, osgoi defnyddio eu eitemau personol fel eu ffôn symudol;
  • Cadw glendid llaw da, gan gynnwys golchi eich dwylo gyda sebon neu glanweithydd ar ôl tagu, tisian neu mynd i’r tŷ bach, a chyna c ar ôl bwytac yfed;
  • Gorchuddio eich trwyn a’ch ceg wrth dagu neu disian gyda tisw a’u gwaredu nhw yn y bin sbwriel agosaf ar ôl defnyddio.

Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cynghori unrhyw un sydd wedi teithio i’r DU o Tsieina, Gwlad Tai, Siapan, Gweriniaeth Korea, Hong Kong, Taiwan, Singapore, Malaysia neu Macau yn ystod y 14 diwrnod diwethaf i aros tu mewn a ffonio eu GP neu’r GIG drwy ffonio 111 yn syth hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau o’r firws.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/

www.gov.uk