Hen lun o stad dai yn Nolgellau

Hel atgofion cymunedau Adra ar gyfer arddangosfa arbennig

Oes gennych chi hen luniau o fywyd ar stadau tai Adra ac yn fodlon eu rhannu ar gyfer arddangosfa arbennig yr Haf hwn?

Mae Tîm Cymunedol Adra yn gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn trefnu arddangosfa ar faes Prifwyl Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ger Pwllheli. ‘Balchder Bro’ fydd thema’r arddangosfa a’r bwriad yw dathlu bywyd ar stadau tai lle mae gan Adra gartrefi ar hyn o bryd.

Y gobaith yw y bydd y lluniau yn adlewyrchu cymunedau lleol a beth mae cymuned yn ei olygu i drigolion.

Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Cymunedol gydag Adra: “Roedd swyddogion yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn am gael cydweithio ar brosiect cymunedol fyddai’n hyrwyddo dyfodiad yr Eisteddfod i Wynedd ond hefyd yn gadael gwaddol ar ôl i’r Eisteddfod adael y fro.

“Y gobaith yw y bydd y prosiect Balchder Bro yn rhoi cyfle i bobl rannu straeon o fyw ar stadau tai dros y blynyddoedd, rhannu gwybodaeth am fywyd a chymeriadau a beth oedd yn unigryw am eu cymunedau nhw.

Bydd yr arddangosfa yn ymddangos ym mhabell Adra yn yr Eisteddfod gydol yr wythnos (Awst 5-12)

Os oes gennych luniau, gallwch eu hanfon at: cyfathrebu@adra.co.uk neu ffoniwch 0300 123 8084.