Hwb datgarboneiddio yn cael ei hyrwyddo mewn arddangosfa yn Llundain

Roedd yr arddangosfa wedi cael ei gynnal gan M-SParc yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn San Steffan er mwyn amlygu cwmnïau a phrosiectau o Ogledd Cymru sy’n arloesi ac arbenigo mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio.

Yn ystod y digwyddiad, roedd y tîm wedi cael cyfle i hyrwyddo Tŷ Gwyrddfai fel prosiect ar y cyd gan Adra, Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor. Mae’r prosiect am drawsnewid cyn safle Northwood mewn i hwb datgarboneiddio ac am sicrhau fod Gogledd Orllewin Cymru ar flaen y gad gyda’r agenda datgarboneiddio a gweithio gyda chymunedau a busnesau i addasu dros 18,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.

Y prosiectau eraill a amlygwyd yn y digwyddiad oedd prosiect Porthladd Rhydd Ynys Môn a Morlais, prosiect gan Fenter Môn sydd am fod o fudd i gymunedau lleol, yr economi a helpu i fynd i’r afael a newid hinsawdd trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan carbon isel, glan.

Dywedodd Gareth Watson, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata: “Rydym wedi gweld diddordeb sylweddol yn natblygiad Tŷ Gwyrddfai o bob ochr i Glawdd Offa, gyda Gweinidog Dros Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS ymysg yr ymwelwyr diweddaraf i’r safle. Yn ystod ei hymweliad, fe gyhoeddodd y Gweinidog pecyn datblygu gwerth £500,000 ar gyfer y datblygiad. Mae cais llwyddiannus arall wedi cael ei wneud drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU ar gyfer yr elfen Labordy Byw.

“Yn yr hir dymor, bydd y datblygiad yn cryfhau sgiliau ar draws y sector, a fydd yn cefnogi’r diwydiant adeiladu lleol drwy eu galluogi i wneud cais am gontractau a sicrhau bod unrhyw werth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio a buddsoddiad cyfalaf cysylltiedig yn cael ei gadw’n lleol. Bydd hefyd yn cyfrannu tuag at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau’r effaith o gostau tanwydd ac ynni drwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid.

“Mae gwir gyffro ymhlith y partneriaid ac yn y rhanbarth ynglŷn â’r prosiect yma a’r gwerth cymdeithasol a’r gwahaniaeth cadarnhaol y bydd yn ei gyflawni i gymunedau a’r economi lleol. Roedd yn wych rhannu’r cyffro hwnnw ag arbenigwyr y diwydiant a fynychodd y digwyddiad M-SParc yn Llundain”.