An image from the visit.

Hyrwyddo gwaith ar fuddsoddiad stoc dai Adra ym Mhensyflog

Mae rhaglen o waith gan Gymdeithas Dai Adra ar 40 o’i gartrefi ar stad Pensyflog ym Mhorthmadog yn mynd rhagddo, gyda’r buddsoddiad yn cynnwys paneli solar newydd a gwaith insiwleiddio allanol fydd o gymorth i arbed ynni a chostau ariannol.

Yn ddiweddar, bu swyddogion Adra yn croesawu Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd i Bensyflog i gael i’w diweddaru am y gwaith.

Mi gychwynnodd y gwaith ar y stad yn Medi 2022 ac mae pob cartref Adra am dderbyn gwaith insiwleiddio wal allanol, gyda’r rhan fwyaf o dai yn derbyn gwaith ar ffensys a llwybrau hefyd.

Mae’r tai yn derbyn toeuau newydd a  phaneli solar gyda batri fydd yn storio ynni, gyda’r gwaith yma yn cael ei ariannu gan Raglen Ôl – osod er mwyn Optimeiddio gan Lywodraeth Cymru, rhaglen sydd wedi cael ei sefydlu i help landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i leihau troed carbon eu tai cymdeithasol presennol.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra: “Rydym yn hynod falch o’r gwaith sydd yn mynd rhagddo ym Mhensyflog ac mae’r gwaith safonol yma wedi cael ei gynnal gan ein Tîm Trwsio ein hunain.

“Mae’r gwaith yma o ddatgarboneiddio tai er mwyn lleihau ôl -troed Carbon yn hynod o bwysig i ni yn Adra. Rydym am i’r tai fod o ansawdd da ac yn gallu cynhyrchu ynni mewn modd sydd yn arbed arian i’n tenantiaid, yn arbennig yn ystod y cyfnod ariannol anodd sydd ohoni.

“Ac mae’r gwaith yma yn rhan o raglen ehangach o fuddsoddi yn ein stoc dai presennol, yn ogystal â’r gwaith o adeiladu cartrefi o ansawdd ar draws rannau o Ogledd Cymru. Mae hynny wedi cael ei amlygu yn ein Cynllun Corfforaethol ac mae’n wych gweld datblygiadau fel y gwaith ym Mhensyflog am wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd sydd yn byw yno.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Roeddwn yn falch o gael y cyfle i glywed am waith Adra ar stad Pensyflog. Mae’r ffaith bod Adra yn cyflogi gweithlu lleol i weithio ar y stad i’w ganmol, a’r ffaith eu bod yn defnyddio contractwyr a darparwyr allanol o Ogledd Orllewin Cymru i gefnogi’r gwaith.

“Mae’n bwysig bod prosiectau adnewyddu fel hyn yn defnyddio adnoddau lleol fel bod y buddsoddiad yn cadw’r bunt yn lleol a bod y gymuned leol yn enhangach yn elwa o’r buddsoddiad”.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffries, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd dros ward Pensyflog: “Braf oedd cael gweld y gwaith yn mynd rhagddo a chlywed sut y byddai tenantiaid yn elwa wrth gael y gwaith insiwleiddio. Gyda chostau ynni’n cynyddu mae’n bwysig bod tenantiaid yn derbyn gwaith fel hyn ar eu cartrefi, er mwyn sicrhau eu bod yn arbed ynni ac yn lleihau costau yn y pen draw.

Mi fydd hi’n braf cael dychwelyd ar ôl i’r gwaith orffen er mwyn clywed ymateb trigolion a sut mae’r buddsoddiad wedi gwneud gwahaniaeth”.