Lansio Fframwaith Deunyddiau Cymru – y cyntaf o’i fath yng Nghymru

Rydym yn arwain y ffordd wrth i ni lansio o’r enw Fframwaith Deunyddiau Cymru, sef  fframwaith cenedlaethol newydd i ddarparu siop un stop ar gyfer deunyddiau.

Rydym wedi penodi Travis Perkins Managed Services i redeg y gwasanaeth yma ar y cyd hefo ni, sy’n rhan o fasnachwyr adeiladu mwyaf yn y DU, Travis Perkins PLC. 

Hyd yma, mae chwe aelod wedi ymuno â’r fframwaith, sy’n cael ei reoli gennyn ni Adra, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cartrefi Conwy, Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Tai Calon, gyda’r fframwaith yn agored i bob cymdeithas dai, awdurdod lleol a chyrff sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.  

Enillodd Travis Perkins Managed Services dendr y darparwr gwasanaeth ac maent wedi ymrwymo canghennau pwrpasol ar gyfer aelodau’r fframwaith ledled Cymru, gyda deunyddiau ar gael gan gynnwys cyflenwadau adeiladu cyffredinol, trydanol, toi, plymio, gwresogi a cheginau, yn ogystal â fframiau pren a deunyddiau ar gyfer adeiladu modiwlaidd. 

Mae manteision ymuno i aelodau’n cynnwys cyfleoedd i gydweithio ymhellach â phartneriaid ledled Cymru, datblygu atebion ar y cyd i heriau y mae’r grŵp yn eu hwynebu, megis datgarboneiddio, tra’n gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd a darparu gwasanaethau arloesi, gydag aelodau’n cael cefnogaeth Rheolwr Fframwaith penodol. 

Bydd aelodau o Fframwaith Deunyddiau Cymru yn gyrru gwerth cymdeithasol, gyda Travis Perkins Managed Services yn ymrwymo 1.5% o gyfanswm gwariant y fframwaith ar ddeunyddiau i gronfa buddsoddi cymunedol i gefnogi mentrau lleol, gan gynnwys cynnig cyfleoedd i hyfforddeion a phrentisiaethau. 

Meddai Paul Painter, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynnal a Chadw yn Adra:  

“Rydym yn falch o lansio ein Fframwaith newydd a fydd yn ein galluogi i gydweithio ag ystod eang o bartneriaid i gyfrannu at economïau lleol, mynd i’r afael â heriau cymunedol penodol ac ychwanegu gwerth cymdeithasol ledled Cymru. 

“Y Fframwaith hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan ei fod yn cael ei ffurfio a’i reoli gan gymdeithas dai ac mae’n cynnig ateb uniongyrchol i sefydliadau sy’n chwilio am ddarpariaeth Gwasanaeth sy’n cael ei Reoli (Managed Service). 

“Bydd bod yn rhan o’r Fframwaith unigryw yma yn rhoi manteision mawr i bob aelod sy’n ymwneud â chydweithio, Gwerth am Arian, cynnyrch a gwasanaeth o ansawdd uchel, yn ogystal â chyfraniad tuag at ein cymunedau drwy’r cymalau gwerth cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at ddatblygu perthynas hirdymor gyda phartneriaid, gan ddangos ein hymrwymiad i yrru’r gwerth gorau gyda chyflenwyr.” 

Ychwanegodd Stuart Hough, Rheolwr Gyfarwyddwr Travis Perkins Managed Services: 

“Rydym wrth ein bodd bod Travis Perkins Managed Services yn rhan o Fframwaith Deunyddiau Cymru, y dull cydweithredol a ddaw yn sgil y fframwaith yw’r cyntaf o’i fath. Edrychwn ymlaen at ddatblygu atebion i ysgogi arbedion effeithlonrwydd a darparu gwasanaeth ac ansawdd sy’n arwain y farchnad y gall pob aelod fframwaith ddibynnu arnynt.” 

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith, anfonwch e-bost at Martin Burger, Rheolwr Fframwaith Deunyddiau Cymru: martin.burger@adra.co.uk  neu ffoniwch  0300 123 8084.