Lleihau unigrwydd bobl hŷn sy’n aros adra

Rydan ni yn gwneud ymdrech i leihau unigrwydd a chynnig cefnogaeth drwy ffonio bob tenant sydd dros 70 mlwydd oed a phobl bregus yn ystod y cyfnod ansicr yma o ganlyniad i Coronafeirws.

Hyd yn hyn, mae 30 o’n aelodau staff wedi llwyddo i gysylltu hefo 1,000 o denantiaid er mwyn cael sgwrs gefnogol a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

O ganlyniad i Coronafeirws, pellhau cymdeithasol, hunanynysu a chanllawiau’r Llywodraeth, mae’n bosib nac ydi rhai pobl hŷn, yn enwedig rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain, yn gweld nac yn cael sgwrs o ddydd i ddydd hefo unrhyw un. Gall hyn achosi i bobl hŷn deimlo’n unig, ynysig ac isel eu hysbryd.

Mae sefydliadau ac asiantaethau yn gorfod newid ac addasu eu ffordd o weithio oherwydd Coronafeirws, ac felly rydan ni wedi trefnu fod ein staff yn cysylltu hefo tenantiaid sydd dros 70 oed a phobl bregus i gael sgwrs gyfeillgar, gefnogol hefo’r tenantiaid yma.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymuned yma yn Adra:

“Rydym yn gymdeithas dai sydd â ffocws clir ar ein tenantiaid, cwsmeriaid a chymunedau. Mae’n gwerthoedd cymunedol yn hollbwysig i ni ac yn ymrwymiad ydan ni’n cymryd o ddifrif.

“Wrth wynebu’r cyfnod heriol yma mae angen ymateion arloesol i gyfarch yr angen i roi cymorth i’n tenantiaid mwyaf bregus. Braf gweld ein staff felly yn parhau i allu cefnogi tenantiaid, er fod hyn mewn ffordd sy’n wahanol i arfer.”

Mae ein swyddogion Cefnogi Tenantiaid hefyd yn cadw mewn cysylltiad parhaus hefo tenantiaid mwyaf bregus drwy gynnig sgwrs dros y ffôn, gweld sut allen nhw fod o gymorth a gwneud trefniadau ar eu cyfer, yn ogystal â chynnig clust sy’n gwrando, yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Am fwy o wybodaeth am sut ydan ni yn delio hefo Coronafeirws a’r gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid, yn ogystal á mwy o wybodaeth am wasanaethau cymunedol, a llawer mwy, ewch i’n tudalen Coronafeirws drwy glicio ar y baner melyn ar dop y dudalen hon.