The panel at the Eisteddfod

Lles cymunedau lleol dan y chwyddwydr yn nhrafodaeth yn yr Eisteddfod

Rhaid i sefydliadau a sectorau ar draws Gogledd Orllewin Cymru gydweithio’n agos ac yn gyflymach i wneud yn siŵr bod cymunedau lleol a’r Gymraeg yn parhau i ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.

Dyna oedd neges dadl banel a gynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan lle daeth nifer o sefydliadau ac unigolion ynghyd i drafod materion yn ymwneud â chymunedau lleol.

Cymdeithas Tai Adra oedd yn cynnal y digwyddiad, gyda’r siaradwyr yn cynnwys y Prif Weithredwr Iwan Trefor Jones; Sian Gwenllian, AS Arfon; Bethan Williams o Mantell Gwynedd; Dafydd Gruffydd o Menter Môn a’r Cynghorydd Craig ab Iago o Gyngor Gwynedd.

Y pynciau dan sylw oedd tai,costau byw, cyflogaeth a hyfforddiant, yr economi leol, y Gymraeg, gwytnwch cymunedau, gwirfoddoli, dyfodol economïau lleola’r gwasanaeth a ddarperir gan y GIG.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Roedd hwn yn gyfle gwych yn yr Eisteddfod i gael trafodaeth iawn.

“Rhaid i ni gyd weithio gyda’n gilydd mewn ffordd gydlynol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn y sesiwn.

“Nid yw gweithio mewn partneriaeth yn newydd i unrhyw un ohonom ac fel unigolion a sefydliadau, rydym yn angerddol iawn dros sicrhau creu gwahaniaeth i’n cymunedau.

“Yr hyn sydd angen digwydd nesaf yw cael dull sy’n wirioneddol gysylltiedig, gan wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn canu yn yr un cywair ac yn gweithio er lles ein cymunedau.

“Roedd yn wych cael yr ymrwymiad hwnnw o amgylch y bwrdd yn y sesiwn. Mae angen inni weithredu ar y geiriau hynny.

“Wrth gwrs mae hyn yn broblem tu hwnt i Ogledd Orllewin Cymru hefyd. Gall sefydliadau sy’n cydweithio’n llawer agosach ond gael effaith gadarnhaol ac edrychwn ymlaen at symud ymlaen gyda’r egni newydd hwn er budd ein cymunedau”.

 

Nodiadau i’r Golygyddion:  Yn y llun (o’r chwith i’r dde) :  Cyng Craig Ab Iago; Sian Gwenllian AS; Bethan Williams; Iwan Trefor Jones a Dafydd Gruffydd. Cadeirydd y sesiwn: Bethan Williams Price.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm cyfathrebu Adra ar 0300 123 8084 neu drwy e-bost: cyfathrebu@adra.co.uk