Llun o'r coed

Plannu coed i hybu bioamrywiaeth ym Mangor

Plannu coed i hybu bioamrywiaeth ym Mangor

Bydd tenantiaid Adra ar stadau tai yn Mangor sy’n derbyn gwaith atgywieirio ar eu tai fel rhan o fuddsoddiad gan y gymdeithas dao rwan yn elwa o waith amgylcheddol wrth i 40 o goed gael eu plannu er mwyn hybu bioamrywiaeth yn yr ardal.

Mae Adra yn buddsoddi ar gartrefi ar stâd o dai yn Cilcoed, Penywern, Coedmawr a Ffordd Hendre ym Mangor er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a safon y cartrefi.  James Cyf sydd wedi eu apwyntio i wneud y gwaith yma. Mae’r gwaith yn cynnwys:

  • rhoi toeau newydd ar y tai
  • insiwleiddio a rendro waliau tu allan
  • gosod ffenestri newydd
  • gosod gwteri newydd
  • gwella llwybrau a ffensys a mwy.

Fel rhan o’r gwaith, mae James Cyf wedi plannu 40 o goed ar ein rhan tu ol i’r safle ym Mhenywern. Mae rhain yn gymysgedd o goed gwahanol, a fyddai’n ychwanegu at bioamrywiaeth y safle.

Dywedodd Sara Fon Williams, Rheolwr Prosiect y gwaith ym Mhenywern: “Derbyniodd Adra y coed yma trwy rhaglen am ddim gan y Llywodraeth, ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, lle roedd modd i Adra wneud cais am goed ar ran cwsmeriaid.  Fel rhan o’n strategaeth datgarboneiddio, rydym yn awyddus dod o hyd i fwy o lecynnau gwyrdd i blannu coed yn y dyfodol.

Mae’n gret gweld James Cyf yn cyfrannu yn ol i’r gymuned a’r amgylchedd fel rhan o’u gwaith’.