Lluniau o'r addasiadau

Rhaglen addasiadau tai Adra o gymorth  i unigolion a theuluoedd

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, yn bwrw ymlaen â’i rhaglen o greu cartrefi arbenigol wedi’u haddasu ar gyfer unigolion a theuluoedd ag anghenion ychwanegol.

Hyd yma, mae 9 eiddo wedi eu cwblhau gan Adra , oll wedi eu dylunio a’u hadeiladu i anghenion y teuluoedd a’r unigolion mewn angen: 3 yng Nghaernarfon, 1 yn Dinas, 1 yn Neiniolen, (Gwynedd i gyd) a 4 yng Ngallt Melyd ger Prestatyn.

Mae gwaith wedi’i gynllunio ar saith eiddo arall: 2 yn Nhreborth, 1 yng Nglasinfryn, 2 ym Mlaenau Ffestiniog (Gwynedd gyfan) a 2 ym Mhrestatyn.

Mae tri eiddo arall ar y gweill yng Ngwynedd lle mae teuluoedd lleol wedi eu hadnabod mewn angen, gan nad yw eu tŷ presennol yn cwrdd â’u gofynion tai.

Mae gwaith ar un datblygiad yn cynnwys (byngalo dormer) lle mae’r llawr gwaelod yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, drysau wedi’u lledu, ystafell wely wedi’i chysylltu ag ystafell ymolchi wedi’i haddasu, cawod a bath arbenigol, teclynnau codi i deithio’n rhydd rhwng yr ystafell wely a’r ystafell ymolchi, drws i’r ardd o’r ystafell wely, cynllun goleuadau meddal, teledu cylch cyfyng a socedi ychwanegol.

Dywedodd Elliw Owen, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu yn Adra: “Rydym wrth ein bodd gyda’r gwaith sydd wedi’i wneud i adeiladu’r eiddo hyn a chreu adeiladau cwbl hygyrch gyda’r holl addasiadau angenrheidiol i helpu i wella ansawdd bywyd unigolion a’u teuluoedd.

“Buom yn trafod amgylchiadau unigolion a theuluoedd gyda’r awdurdodau lleol dan sylw a adnabuwyd a dylunio ac adeiladu cartref newydd oedd yr unig ateb i ddiwallu eu hanghenion. Roedd hyn yn ein galluogi i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith”.

“Mae darparu cartrefi o safon sy’n diwallu anghenion unigolion a theuluoedd wedi’i amlygu yn ein Cynllun Corfforaethol. Rydyn ni wedi cael ymateb mor wych i’r gweithiau – maen nhw wir wedi bod yn achubiaeth wirioneddol”.