Staff Adra yn Lledaenu Hwyl yr Ŵyl gydag ymgyrch Sgwad Santa

Mae staff Adra wedi dod â gwen i gannoedd o bobl mewn angen eleni drwy eu hymgyrch Sgwad Santa. Mae’r ymgyrch wedi gweld staff yn rhoi teganau, eu lapio, a’u cyflwyno i bedair elusen leol: Gorwel, Stori, Y Bont, a Ward Plant ysbyty Gwynedd.  

Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl sy’n dioddef o gam-drin domestig neu sydd mewn perygl o golli eu cartrefi. Mae Stori yn helpu oedolion a phlant i adeiladu’r bywyd positif y maent yn ei haeddu. Y Bont yw lloches ddiogel i blant amddifad neu’r rhai na all aros gartref gyda’u teuluoedd. Mae Ward Plant Ysbyty Gwynedd yn gofalu am blant gwael o bob rhan o Ogledd Cymru.  

Syniad Gareth Bayley-Hughes, Rheolwr Rhaglen yn Adra oedd ymgyrch Sgwad Santa. “Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i rannu gwen yn ystod y Nadolig,” meddai Gareth. “Nid yw’n amser gwych i bawb, a gwyddwn fod pobl yn ein cymuned fysa’n gwerthfawrogi anrheg. Mae pob plentyn yn haeddu anrheg Nadolig.”  

Tyfodd syniad Gareth yn gyflym gyda chefnogaeth ei gydweithwyr, a roddodd eu hamser, papur lapio, a’u hymroddiad i wneud i’r ymgyrch lwyddo. Nid staff Adra yn unig sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch yma. Mae sawl busnes lleol wedi bod yn hael hefyd:  

  • Cyfrannodd W F Clayton & Co Ltd gwerth £500 o dalebau Argos gan sicrhau y gellid prynu hyd yn oed mwy o deganau.  
  • Llenwodd THW Construction Ltd gefn car gyda theganau, yn ychwanegu at y pentwr mawr.  

“Mae’r ymateb gan ein staff a busnesau lleol wedi bod yn anhygoel,” meddai Gareth. “Fe dderbyniwyd popeth o ddolis a thedis i gemau bwrdd a phosau. Ac roedd pawb mor barod i helpu gyda’r lapio a’r danfon.”  

Cafodd ymdrechion y Sgwad Santa groeso mawr gan yr elusennau a dderbyniodd y rhoddion. Mae Gareth yn hynod falch o lwyddiant ymgyrch Sgwad Santa.  

“Rwy’n hynod o falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd,” meddai. “Mae’n wirioneddol galonogol gwybod ein bod wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yn ystod y Nadolig, diolch i gefnogaeth anhygoel ein staff a busnesau lleol.”