Swydd Ddisgrifiad Maint Fesurwr ac Amcangyfrifwr
Teitl swydd: Maint Fesurwr ac Amcangyfrifwr
Atebol i: Pennaeth Gwasanaethau Eiddo
Yn gyfrifol am: n/a
Adran: Cyfarwyddiaeth Eiddo a Datblygu
Cyflog: Graddfa 15
Prif bwrpas y swydd
Rheoli a chefnogi’r adran Asedau a Chontractau’r Gyfarwyddiaeth Eiddo gyda phrif gyfrifoldeb am y meysydd canlynol:
• Cynorthwyo Rheolaeth Cost Contractau ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Eiddo
• Paratoi dogfennau tendr a Manylebau’r Gyfarwyddiaeth Eiddo
• Cynnal Dadansoddiad Fforddiadwyedd ar ran y Gyfarwyddiaeth Eiddo
• Gwerthuso Costau Contractwyr yn unol â gofynion tendr
• Ymgymryd â pheirianneg gwerth ar draws cynlluniau gyda’r Rheolwyr Prosiect
• Polisïau a gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch, Ansawdd ac Amgylchedd (IDAA) ar gyfer y tîm
• Darparu cyngor ar gostau i’r tîm
• Darparu swyddogaeth Amcangyfrifwr ar ran y timau mewnol sy’n darparu gwaith cyfalaf
• Cynnal Prisiadau, Rheoli Cost, Adolygu Cyfrifon Terfynol a chwblhau pob Tystysgrif sy’n
berthnasol i gynlluniau.
• Cynorthwyo i reoli cyllideb ariannol ar gyfer y Tîm Asedau a Chontractau Cynorthwyo gyda chynllunio a datblygu rhaglenni gwaith dros nifer o flynyddoedd sy’n cyd-fynd gyda chyllid/buddsoddiad sydd ar gael ar draws asedau ar gyfer Adra.
Sicrhau bod perthnasau gweithio agos yn cael eu sefydlu a’u cynnal gyda’r tîm Tîm Trwsio, Cynnal a Chadw, Tîm Cynllunio Buddsoddi Cyfalaf a Darparu o fewn strwythur Cyfarwyddiaeth Eiddo Adra i ddileu unrhyw ddyblygu mewn ymdrech i symud at ddull holistig o ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw, a buddsoddi o fewn asedau Adra.
Cefnogi’r tîm darparu wrth gyfleu newidiadau perthnasol a chymwys mewn deddfwriaeth yn effeithiol ac i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau i bolisïau a gweithdrefnau Adra. Rheolaeth Ariannol o raglenni gwaith SATC/wedi cynllunio yn unol â’r gofyn
Cyfrifoldebau Allweddol
•Paratoi adroddiadau, gwybodaeth ac ystadegau ar weithgareddau datblygu a mynychu cyfarfodydd yn unol â’r gofyn.
• Bod yn ymwybodol a sicrhau eich bod yn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf o ran
deddfwriaeth gyfredol, gan gynnwys Rheoliadau Adeiladu; Gweithdrefnau Cynllunio Gwlad a
Thref, Safonau Prydeinig a CE; Rheoliadau Iechyd a Diogelwch; Safonau Ansawdd Tai Cymru;
canllawiau ac arfer da’r Gorfforaeth Dai.
• Sicrhau cydymffurfio gyda pholisi cydraddoldeb Adra, polisi iechyd a diogelwch a pholisïau
gwasanaeth cwsmer ym mhob rhan o weithgarwch caffael, a bod holl waith yn cael ei wneud
yn unol â chodau ymarfer a deddfwriaeth berthnasol.
• Sicrhau eich bod yn gweithio o fewn paramedrau polisi a gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch,
Ansawdd a’r Amgylchedd (IDAA) Adra.
• Sicrhau y cyflawnir y Gwerth Gorau ym mhob elfen o ddatblygu.
• Cynorthwyo i ddatblygu cynllun rheoli asedau blynyddol sy’n cynnwys strategaeth rheoli
asedau 5 mlynedd fanwl a strategaeth rheoli asedau 30 mlynedd ddangosol o fewn cyfyngiadau cynllun busnes Adra.
• Bod yn gyfrifol am gynhyrchu bob rhaglen waith ar gyfer bob blwyddyn ariannol yn seiliedig ar
ofynion y stoc sydd wedi ei greu o’r system rheoli ased.
• Cynorthwyo i gaffael, rheoli, monitro a chyflawni rhaglenni buddsoddi a datblygu ar gyfer Adra.
• Rheoli cost Contractwyr a thimau darparu mewnol yn ôl y gofyn.
• Rheoli Cyllidebau a gweithdrefnau Gweinyddu Contractau
• Defnyddio a Datblygu Systemau Rheoli Pwrpasol, a thempledi i fonitro costau ar draws
cynlluniau ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Eiddo.
• Ail-gysoni ac Adrodd ar faterion ariannol
• Cytuno ar gostau cyn adeiladu ac ar ôl (ar y cyd â’r Rheolwr Prosiect) gan gynnwys cymeradwyo prisiadau i’w talu.
• Rheoli cyfarfodydd cost rheolaidd a mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd, fel bo’n ofynnol.
• Rheoli casglu data priodol gan gontractwyr i gynnal cofnodion eiddo yn unol â’r gweithdrefnau.
• Sicrhau bod gwaith cynllunio, manylebau, amserlenni gwaith ac amodau contract yn cael eu paratoi yn effeithiol ar gyfer gwella eiddo Adra.
• Monitro cynnydd a chynhyrchu adroddiadau rheolaidd i‘r Adran Gyllid.
• Dirprwyo pan fydd absenoldeb, salwch a gwyliau fel ac y mae gofyn yn y tîm
• Sicrhau bod holl Bolisïau Corfforaethol Adra yn cael eu rhoi ar waith o fewn y Gyfarwyddiaeth
Eiddo yn arbennig:
• Iechyd, Diogelwch, Ansawdd a’r Amgylchedd (IDAA)
• Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Rheoli Risg
• Rheoli Perfformiad
• Diogelu Data
• Polisi Iaith Gymraeg
• Cod Ymddygiad
Rheolaeth Ariannol
• Sicrhau bod y rheoliadau effeithiol yn cael eu defnyddio o ran costau prosiect a manyleb.
• Sefydlu, paratoi, gweinyddu a rheoli cyllidebau prosiect.
• Monitro perfformiad ariannol yn erbyn targedau a gweithredu fel bo’n briodol.
• Datblygu pob prosiect yn unol â chanllawiau Adra a Llywodraeth Cymru gan sicrhau gweithredu yn unol â rheolau sefydlog, rheoliadau ariannol a gweithdrefnau mewnol, a bod y caniatâd priodol yn cael ei dderbyn cyn ymrwymo’n ffurfiol.
• Cynnal adroddiadau hyfywedd ar brosiectau newydd arfaethedig gan ystyried ariannu a threfniadau adnoddau cyffredinol.
• Lle’n bosib, cynnwys bod posib cyrraedd hyfywedd ariannol ym mhob rhaglen buddsoddi mewn stoc a syniadau amgylcheddol
• Datblygu cynllunio ariannol a strategaethau cyllidebol ar gyfer y gwasanaeth Eiddo i fanteisio i’r eithaf ar incwm a chynnal hyfywedd
• Sicrhau bod cynlluniau rhagweld, monitro a rheoli gwariant cyffredinol yn eu lle ar gyfer cynlluniau gwario.
• Paratoi cynlluniau gwario manwl wedi eu proffilio ar gyfer pob categori buddsoddi/rhaglenni
cyfalaf ar gyfer rhaglenni trwsio wedi ei gynllunio a rhaglenni adfywio.
• Rheoli a gyrru agweddau ‘peirianneg gwerth’ y rhaglen i sicrhau’r ansawdd gorau / y ffordd fwyaf cost effeithiol o ddarparu’r rhaglen.
• Adrodd i Adran Gyllid Adra ar reolaeth cyllideb a gofynion cyllideb y rhaglen fuddsoddi.
• Cynghori ar y cyd â’r Tîm Eiddo ar amserlen ar gyfer cymeradwyaeth ofynnol ar gyfer y rhaglen a chyllideb fuddsoddi.
• Gwerthuso data ar gynlluniau gwella yn enwedig o ran costau. Sicrhau bod y data yn gywir, yn
gyson ac yn cael eu harchwilio yn effeithiol, yn cael eu herio a’u mireinio fel y gellir rheoli’r rhaglen gyfan yn effeithiol.
• Paratoi gorchmynion tasg gan gynnwys gwiriadau fforddiadwyedd ar gyfer bob contractwr/is-gontractwr/cyflenwyr yn unol â phrotocol caffael Adra a sicrhau bod manylebau, amserlenni
gwaith, cynlluniau adnodd ac amodau contractau yn cael eu paratoi yn effeithiol.
• Monitro’r broses rheoli cost (amrywiaethau, prisiadau, taliadau, rhagamcanion llif arian ayb) i
sicrhau cadw at delerau taliadau contractiol ac nad yw Contractwyr yn cael eu rhoi mewn risg
o beidio â chael eu talu drwy barhau i gydymffurfio gyda rheoliadau ariannol Adra. Cadw mewn
cysylltiad agos â’r Rheolwr Prosiect a chynhyrchu adroddiadau rheolaidd i Adran Gyllid Adra,
yn sicrhau eu bod yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau ac arfer da’r cwmni.
• Datblygu a sefydlu templedi ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Eiddo i ddefnyddio o ran rheoli cost
ystod o fathau gwahanol o gynlluniau i gynorthwyo gyda rheoli cost. Gellir cysylltu hyn fel
datrysiad Bas data Ased.
• Darparu a chynorthwyo i ddatblygu rhagamcaniadau cost yn seiliedig ar ddogfennau cytundeb
ar gyfer Tîm Trwsio er mwyn sicrhau y gallant brisio yn gystadleuol yn erbyn contractau yn y
dyfodol (mae angen cysylltu hyn a gweithio ar y contract cadwyn gyflenwi).
Datblygiad Busnes
• Bod yn llysgennad sydd yn cynnig esiampl a chynrychioli’r Cwmni mewn digwyddiadau a chyfarfodydd.
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol a phroffesiynol gyda phartneriaid o’r awdurdod lleol,
contractwyr allweddol, ymgynghorwyr a chwmnïau cyfleustodau.
Darparu Gwasanaeth
• Briffio, cyfarwyddo a rheoli perfformiad ymgynghorwyr allanol sydd wedi eu penodi mewn perthynas â phrosiectau penodol.
• Sicrhau bod gweithio mewn Partneriaeth yn cael ei hybu a’i annog ar draws Adra.
• Darparu adroddiadau cynnydd interim mewn perthynas â’r rhaglen gyfan i’w gyflwyno i gyfarfodydd priodol y Bwrdd, is-grwpiau ac i Uwch Reolwyr o fewn y Gyfarwyddiaeth Eiddo.
• Cyfrannu tuag at gasglu data DPA i gwrdd â gofynion mewnol ac allanol.
• Darparu cefnogaeth dechnegol a rhoi cyngor i dimau eraill i sicrhau bod eu gwaith yn cydymffurfio ac yn gyson â’r rhaglen buddsoddi.
• Hybu a chynnal gwasanaeth o safon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sy’n cydymffurfio yn llawn
gyda pholisïau a gweithdrefnau Adra.
• Cyfrannu at weithredu dangosyddion perfformiad allweddol ym mhob maes a chynnal data cywir ar gostau, ansawdd a pherfformiad.
Rheoli Risg
• Sicrhau bod rheoliadau priodol yn eu lle i reoli a lleihau risg busnes a monitro i sicrhau eu bod
yn effeithiol gan wneud addasiadau yn unol ag argymhellion archwilio mewnol.
• Hybu diwylliant ymwybyddiaeth risg o fewn y tîm Asedau a Chontractau.
Rôl Gorfforaethol
• Cymryd rhan wrth gasglu Cynlluniau Corfforaethol a Busnes blynyddol a monitro Dangosyddion
Perfformiad Allweddol fel bo’n briodol (gan ddefnyddio gwybodaeth meincnodi).
• Bod yn aelod tîm gweithredol ac effeithiol gan drafod ag aelodau o’r Tîm Rheoli ar bob mater
rheoli corfforaethol a datblygiad a hybu amcanion a gwerthoedd y Cwmni.
• Monitro perfformiad yn erbyn canllawiau Gwerth Gorau, darparu ar gais, gwybodaeth drwy
gynlluniau busnes, cynlluniau darparu a dogfennau tebyg.
• Diweddaru eich hun ar newidiadau mewn polisi perthnasol / newidiadau i ddeddfwriaeth a
rhannu hyn gydag aelodau staff perthnasol a diweddaru prosesau a gweithdrefnau mewnol lle bod hynny’n bosib.
• Arwain ar ddatblygu a gwella dulliau gweithio, systemau a gweithdrefnau i uchafu perfformiad ac effeithlonrwydd.
• Yn gyfrifol am gynhyrchu ac ymateb i fentrau polisi newydd yn ôl yr angen.
• Sicrhau ymgynghori priodol ar strategaethau rheoli ased a buddsoddiad adrannol allweddol
• Sicrhau bod staff yn cael eu recriwtio, rheoli ac ysgogi yn effeithiol i ddiwallu amcanion Adra
Bwrdd Rheoli/Llywodraethu
• Paratoi adroddiadau gweithgaredd, cynnydd a pherfformiad i’w cyflwyno i’r Rheolwr Asedau a
Buddsoddi fel bo’n ofynnol.
• Rheoli bod y cydymffurfio cyffredinol yn cael eu prosesu a bod ffurflenni Llywodraeth Cymru
yn cael eu darparu i sicrhau bod Adra yn ateb safonau rheoleiddio.
• Sicrhau bod Adra yn ateb ei holl rwymedigaethau o ran gofynion Rheoliadau Rheoli Asbestos 2006.
• Ysgrifennu adroddiadau a thasgau eraill mewn ymateb i rôl y tîm o ran prosesau llywodraethu, archwilio a rheoleiddio.
• Gwneud cyfraniad cadarnhaol o fewn y Gyfarwyddiaeth wrth adolygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau.
• Meithrin perthnasau gweithio adeiladol gyda rhanddeiliaid a sefydliadau sy’n bartneriaid.
• Hybu a chydymffurfio gyda darpariaethau Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Adra.
Perfformiad ac Ansawdd
• Sicrhau ymdrin â chwynion yn effeithiol ac effeithlon.
• Sicrhau bod prosiectau yn cael eu darparu yn unol â safonau’r Cwmni, o fewn y gyllideb ac ar amser.
• Defnyddio a chyfrannu tuag at ddatblygu systemau TG er mwyn gwella perfformiad yn barhaus yn ogystal ag effeithlonrwydd y gwasanaeth Eiddo.
• Sicrhau bod pob contract gwaith yn cael eu rheoli yn effeithiol i gyrraedd bob targed sydd wedi ei osod o ran cost, ansawdd ac amser.
• Bod yn gyfrifol am gynorthwyo i reoli’r gyllideb flynyddol a darparu rhagamcaniadau cost manwl misol ar gyfer uwch reolwyr.
• Sicrhau bod y fethodoleg caffael fwyaf effeithiol yn cael ei defnyddio a sicrhau cadw at holl
bolisïau a rheoliadau ariannol a chontract Adra.
Rheoli Staff
• Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus o bryd i’w gilydd yn unol â gofynion gwasanaeth ac yn benodol i gynnal tasgau ymgynghori a chynrychioliadol gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid eraill, ac i ddirprwyo mewn argyfwng.
• Mae disgwyl i bob gweithiwr gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant sy’n berthnasol
i’w swydd.
• Mae disgwyl i bob gweithiwr gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant sy’n berthnasol
i’w swydd.
Manyleb Person
Cymwysterau
BSc (Anrhydedd) mewn Maint Fesuro neu gyfatebol | H |
Aelod siartredig o’r RICS neu CIOB | D |
Cymhwyster Rheoli/Arweinyddiaeth sy’n gyfatebol i ILM 5 neu uwch | D |
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus | H |
Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau
Profiad o weithredu mewn swydd debyg mewn sefydliad tai neu sefydliad o faint, cwmpas a chymhlethdod tebyg |
H |
Profiad helaeth o weithio fel MF ar brosiectau amrywiol | H |
Gallu gweithio i amserlen ac ymdrin â chyfaint mawr o waith. | H |
Profiad o ymdrin â nifer o flaenoriaethau ar yr un pryd. | H |
Profiad o weithio mewn amgylchedd adeiladu | H |
Profiad helaeth o reoli cost a chyllideb H | H |
Profiad o gynhyrchu Manylebau, Atodlenni Gwaith a dogfennau tendr ar gyfer gwaith gwella yn unol â SATC |
H |
Profiad o brisio gwaith mewn amgylchedd dendro | D |
Profiad helaeth o weithio gyda chontractwyr | H |
Gallu dehongli gwybodaeth mewn dulliau amrywiol gan gynnwys manylebau, atodlenni a chostau. |
H |
Sgiliau trafod | H |
Blaenoriaethu llwyth gwaith a dirprwyo fel bo’n briodol | H |
Gallu gweithio yn unol â gwneud penderfyniadau o fewn canllawiau a gweithdrefnau |
H |
Gallu defnyddio systemau cyfrifiadurol i gynnal systemau a chofnodion a chynhyrchu dogfennau fel llythyrau, adroddiadau a graffiau, cyflwyniadau ayyb. |
H |
Cynnal a Chadw Adeiladau neu Adeiladu | H |
Profiad o Feddalwedd Rheoli Asedau | H |
Profiad o ddefnyddio Excel gan gynnwys edrych ar dablau ayyb | H |
Profiad o gynllunio, monitro a rheoli arian mewn prosiectau mawr. | H |
Profiad helaeth o ddarparu amcanbrisiau cost, rhagamcanu cost a llif arian | H |
Y gallu i ysgrifennu adroddiadau clir ar faterion technegol cymhleth ac amrywiol. | H |
Sgiliau rhifedd a geiriol sy’n ddigonol i’r swydd. | H |
Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a safonau perthnasol fel Rheoliadau CDM, Rheoliadau Adeiladu, Rheoliadau Cynllunio, Asbestos a Safon Ansawdd Tai Cymru. |
H |
Parodrwydd i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol pan fydd gofyn. | H |
Gallu mynychu cyfarfodydd Adra a chyfarfodydd sefydliadau preswylwyr. | H |
Arall
Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol ar bob lefel. | H |
Rheoli amser a sgiliau trefnu | H |
Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun, adnabod blaenoriaethau a gosod eich targedau eich hun lle bo’n briodol. |
H |
Yn meddu ar drwydded yrru lawn | H |
Sgilau Iaith
Y gallu i gyfathrebu (siarad ac ysgrifennu) yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg | H |