Office sign for our Caernarfon office

Swyddfa Adra yng Nghaernarfon yn cau

Mae Adra yn hysbysu eu tenantiaid yn ardal Caernarfon a’r cylch fod swyddfa Tŷ Buddug yn ardal y Cei yng Nghaernarfon yn cau o Ddydd Gwener, Ionawr 13 ymlaen.

Gall tenantiaid barhau i ymweld â’n swyddfeydd eraill:
•Tŷ Coch, Parc Menai, Bangor
•Tŷ Madog, Porthmadog
•Swyddfa Dolgellau yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion.

Am ffyrdd eraill o gysylltu â ni, cliciwch yma.

Mae Adra yn dymuno diolch i bobl am eu cydweithrediad.