Taclo unigrwydd, cadw cysylltiad a gofyn am adborth a barn cwsmeriaid
Rydan ni wedi bod yn trio taclo unigrwydd a chadw mewn cysylltiad hefo pobl a theuluoedd sy’n denantiaid drwy gael sgyrsiau dros y ffôn yn lle ein Taith ymweld â thenantiaid blynyddol yn ein stadau.
Er gwaethaf Coronafeirws a’r cyfyngiadau sy’n dod o ganlyniad i hynny, rydan ni dal yn darganfod ffyrdd gwahanol i’r arfer o gadw mewn cysylltiad.
Dywedodd Dylan Thomas, Rheolwr Cyswllt Cymunedol yma yn Adra sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun yma yn ogystal â nifer o weithgareddau a phrosiectau cymunedol eraill:
“Fel arfer, rydan ni’n dewis ymweld â’n tenantiaid yn yr ardaloedd maen nhw’n byw yng Ngwynedd a thu hwnt yng ngogledd Cymru. Yn ystod yr ymweliadau yma, rydan ni’n sgwrsio hefo tenantiaid, derbyn adborth am ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn cadw mewn cysylltiad.”
O ganlyniad i Coronafeirws a chanllawiau ac iechyd a diogelwch, doedd hi ddim yn bosib cynnal yr ymweliadau mewn person eleni.
Ychwanegodd Dylan Thomas:
“Mae codi’r ffôn a chael sgwrs anffurfiol wedi bod yn rhan fawr o’n gwaith eleni. Mae ein cwsmeriaid wrth galon ein gwaith. Mae’n bwysig felly ein bod yn gwrando ar ein cwsmeriaid, a rhoi’r cyfle iddynt roi eu barn a dylanwadu a siapio ein gwasanaethau. Dyma pam yr oedden ni’n benderfynol i barhau hefo’n hymweliadau yn rhithiol, a chael y sgyrsiau yma hefo’n tenantiaid dros y ffôn. Roedden ni hefyd yn meddwl bod hyn yn ffordd o drio taclo unigrwydd bobl sy’n byw ar ben eu hunain”
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yma yn Adra:
“Fel Cyfarwyddwr, mae cael cyfle i sgwrsio hefo ein tenantiaid a’n cwsmeriaid yn gyfle gwerthfawr i mi, felly roeddwn i’n falch o fod yn un o’r rhai oedd wedi cymryd rhan yn y galwadau ffôn yma.
“Mae’r cynllun blynyddol yma yn gyfle da iawn i’n staff ni i gyd i gael sgwrs hefo ein tenantiaid ac i atgoffa ein staff pam ein bod ni yma, i wasanaethu ein tenantiaid a’n cwsmeriaid.
“Cawsom adborth gwych o gynnal galwadau ffôn yn ystod y Cyfnod Clo gan ein tenantiaid oedd yn falch o’r cwmni a’r sgwrs mewn cyfnod unig felly roeddem yn awyddus i ddefnyddio’r digwyddiadau ymweld â thenantiaid rhithiol i wneud y galwadau cwrteisi yma unwaith eto.”
Cawsom gydnabyddiaeth am y gwaith cysylltu hefo tenantiaid bregus a dros 70 oed yn ystod y Cyfnod Clo drwy dderbyn Safon Uwch mewn Archediad Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmer.
Ychwanegodd Sarah Schofield:
“Roeddwn yn falch iawn o’r wobr yma gan fod ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth yr ydym yn wneud. Rydan ni’n parchu, gwerthfawrogi ac yn gwrando ar ein cwsmeriaid, a dyma un cynllun sy’n cyfrannu tuag at hynny ac mae’r achrediad yn dangos hynny.”
Yn ystod y Cyfnod Clo, roedd nifer o’n staff yn cysylltu yn wythnosol hefo tenantiaid a chwsmeriaid bregus, yn ogystal â thenantiaid dros 70 i weld os oedden nhw’n iawn ac i gael sgwrs er mwyn taclo unigrwydd ac i gynnig cymorth hefo siopa, nôl presgripsiwn ac ati. Roedd yr adborth am hyn yn bositif iawn gan gwsmeriaid oedd yn gwerthfawrogi’r cyswllt yn ystod cyfnod oedd yn un anodd, heriol emosiynol ac weithiau yn un unig.
O ganlyniad, penderfynwyd defnyddio’r fformat yma a ffonio tenantiaid a chynnal y digwyddiadau ymweld â stadau yn rhithiol – gan annog gwahanol swyddogion, rheolwyr, uwch reolwyr a chyfarwyddwyr Adra i gymryd rhan i holi am farn ein tenantiaid ac i gael sgwrs er mwyn taclo unigrwydd a chasglu barn ac adborth.