Tai fforddiadwy newydd i Sir Ddinbych 

Rydan ni yn un o brif ddarparwyr tai gogledd Cymru ac yn creu cartrefi newydd ar gyfer bobl sydd angen tai yn sir Ddinbych.

Rydan ni wedi ein lleoli yng Ngwynedd ac yn un o gymdeithasau tai mwyaf gogledd Cymru ac yn dal i dyfu, creu cartrefi, swyddi a chyfleoedd ar draws gogledd Cymru.

Un o’n cynlluniau diweddaraf ydi’r datblygiad o 16 o dai dwy a thair ystafell wely, newydd eu hadeiladu, yn Cae Topyn, sir Ddinbych.

Mae’r tai newydd a modern yma yn cynnwys amrywiaeth o ddeiliadaethau, sef cynlluniau i’w gwneud yn haws i bobl gael cartref eu hunain am bris fforddiadwy. Mae dau gartref ar gael o dan y cynllun Rhent Canolradd a thri ar gael o dan Rentu i Brynu yng Nghae Topyn. Bydd datblygiadau eraill yn y sir hefyd fel y cynllun Cae Mair yn Rhuthun.

Dywedodd Daniel Parry, ein Cyfarwyddwr Datblygu:

“Rydym ni yn Adra wedi bod yn gwneud ymdrech fawr i ddatblygu mwy o dai newydd am bris fforddiadwy er mwyn cyfarch yr angen tai lleol sydd yng ngogledd Cymru. Rydym yn ehangu i adeiladu tai newydd o ansawdd er mwyn eu gwerthu ar y farchnad agored ar draws gogledd  Cymru hefyd er mwyn i ni allu rhoi’r arian yn ôl mewn i’r cwmni i ddiweddaru, uwchraddio ac ailwampio’r tai sydd gennyn ni’n barod, ac er mwyn ddarparu mwy o dai newydd fforddiadwy i bobl sydd mewn angen tai.

“Dyma’r tro cyntaf rydym wedi gweithio hefo Pure-Homes ac rydym yn falch o wneud cysylltiadau a pherthnasau gweithio newydd hefo datblygwyr, er mwyn i ni allu cyfrannu at yr economi leol yng ngogledd Cymru.”

Rydym hefyd yn gweithio hefo Tai Teg. Mae gan Tai Teg gofrestr tai fforddiadwy. Mae’n rhaid i bobl sydd eisiau prynu neu rentu tŷ fforddiadwy, gofrestru gyda’r gofrestr yma er mwyn bod yn gymwys. Mae’r gofrestr wedi ei chreu er mwyn casglu gwybodaeth am angen tai fforddiadwy yn y siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam a Powys.  

 Mae’r wybodaeth yn cael ei ddefnyddio i roi sylw at geisiadau cynllunio yn ogystal â chefnogi cynghorau a chymdeithasau tai wrth gynllunio ar gyfer datblygiadau’r dyfodol.  

Am fwy o wybodaeth am hyn, ewch i taiteg.org.uk