Photo of Iwan, Adra's Chief Executive and his brother Wyn

Taith feiciau i Rufain ar gyfer Prif Weithredwr Adra

Mae Prif Weithredwr cymdeithas dai o ogledd Cymru yn paratoi ar gyfer taith feiciau – er budd elusen.

Bydd Iwan Trefor Jones, sydd yn Brif Weithredwr Adra ac yn gadeirydd elusen Gafael Llaw,  yn cychwyn ar daith feiciau hirfaith i godi arian ar gyfer y Doddie Foundation sy’n casglu arian i gyllido ymchwil i drin Clefyd Niwronau Motor.

Bydd Iwan yn un o’r 24 sy’n rhan o dîm Dodd1e’5 Gr4nd S7am o’r Alban Cymru a Lloegr a fydd yn beicio eu ffordd o Murrayfield yng Nghaeredin ar 28 Chwefror, yn ymweld gyda Belfast, Dulyn, Caergybi, Caerdydd, Twickenham, Paris a Monaco cyn cyrraedd Rhufain ar 9 Mawrth.

Bydd y tîm yn cario’r bêl ar gyfer y gem rhwng yr Alban a’r Eidal.

Dywedodd Iwan:  “Dwi’n edrych ymlaen ond eto yn poeni am y daith.

“Dyma fydd yr her gorfforol anoddaf i mi ei hwynebu, ond mae ar gyfer achos da a dwi’n falch fy mod yn rhan o dîm ymroddedig gwych sydd eisiau codi arian ar gyfer ymchwil y mae ei angen i drin a gwella MND, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

“Mae’r heriau y mae’r rheini a effeithir gan Glefyd Niwronau Motor yn eu hwynebu yn sylweddol, nid yn unig ar gyfer unigolion ond hefyd eu teuluoedd.

“Byddwn yn galw mewn ysgolion a chlybiau ar hyd y daith ac yn edrych ymlaen at greu bwrlwm a chodi proffil elusen hynod o bwysig. Ond cyn hynny mae llawer o baratoadau i’w gwneud a rhaglen hyfforddi heriol i’w dilyn.

“Dwi’n edrych ymlaen at ymuno gyda chapten Cymru Rob Boyns ynghyd â chyfoedion o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan yn yr her fawr yma.”

I gyfrannu i’r gronfa, plîs ewch i: www.justgiving.com/page/iwan-and-wyn-trefor-jones