A delegation from Denbighshire County Council visiting the Plas Newydd Farm site in Prestatyn

Taith i Ffordd Cae Felin i weld y datblygiad tai diweddaraf ym Mhrestatyn

Croesawodd Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru a Castle Green Homes, ddirprwyaeth o Gyngor Sir Ddinbych yr wythnos hon i weld sut mae hen dir fferm ger Prestatyn wrthi yn cael ei drawsnewid i greu datblygiad tai sylweddol.

Mae Adra wrthi yn datblygu 102 o gartrefi ar safle Fferm Plas Newydd ym Mhrestatyn, Ffordd Cae Felin yw’r cam diweddaraf sydd ar fin cael ei gwblhau.

Mae 42 eiddo wedi cael eu cwblhau bellach, gyda’r gweddill i’w cwblhau fesul cam hyd at fis Mawrth 2024.

Bydd 46 o’r eiddo at ddibenion rhent cymdeithasol, gyda’r 56 arall yn unedau rhent canolradd.

Mae’r datblygiad cyfan yn cynnwys cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely, yn ogystal â byngalos 2 a 4 ystafell wely.

Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad Fferm Plas Newydd.

“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn y rhan yma o Sir Ddinbych, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd, o ansawdd uchel a fforddiadwy y gall pobl fod yn falch ohonynt ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn y gwanwyn .”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld sefydliad tai blaengar fel Adra, yn buddsoddi mewn tai o safon i gwrdd â’r galw yma yn Sir Ddinbych.

“Mae galw cynyddol am dai fforddiadwy o ansawdd yn Sir Ddinbych, yn creu heriau ond mae’n codi cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau fel Adra i geisio lleddfu’r broblem. Mae’n amlwg mai cydweithio yw’r ffordd ymlaen i fynd i’r afael â materion tai yng Ngogledd Cymru”.

“Mae cymaint o ffocws ar eiddo newydd i fod yn fwy ynni-effeithlon ac mae’n wych gweld Adra yn arwain y ffordd o ran gwneud yr eiddo newydd yn lanach ac yn fwy gwyrdd o ran lleihau’r ôl troed carbon, yn ogystal ag arbed arian i bobl ar eu biliau ynni ar yr un pryd.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol cofrestrwch gyda SARTH: 01824 712911 / Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Tai Teg: www.taiteg.org.uk