Oes gennych chi ddiddordeb mewn eiddo fforddiadwy yn Llay?

Rydym ni yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu unedau fforddiadwy yn Llay, Wrecsam.

Y bwriad yw adeiladu cymysgedd o fflatiau un a dwy ystafell wely a tai dwy a thair ystafell wely.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu un o’r unedau (rhent canolradd) neu brynu eiddo fforddiadwy ar y safle, mae angen i chi gofrestru eich manylion gyda Tai Teg

Mae Tai Teg yn gofrestr ar gyfer eiddo fforddiadwy yn Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam a Powys ar gyfer bobl sydd ddim mewn sefyllfa i rentu neu brynu eiddo ar y farchnad agored. Ewch i’r wefan i weld os ydych yn gymwys ac i weld be allant gynnig i chi.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn nhrefn dyddiad cofrestru, felly cofrestrwch eich diddordeb mor fuan a phosib.