Woman outside her home with 'not up my street' text written on it

Tipio Anghyfreithlon yng ngogledd Cymru – ‘Nid ar fy stryd i’

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno ag Adra ac eraill ledled Cymru i lansio ymgyrch genedlaethol newydd ‘Nid ar fy stryd i’ i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.

Mae un o brif elusennau amgylcheddol Cymru yn galw ar denantiaid ledled Cymru i gael gwared ar eu heitemau cartref diangen yn y ffordd gywir.
Gyda’i ymgyrch gwastraff newydd, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio cyrraedd cymunedau ledled Cymru, gan eu haddysgu ar ymddygiadau gwastraff cywir, opsiynau ar gyfer cael gwared ar eitemau cartref a galw ar denantiaid i wneud y peth iawn.

Digwyddiadau

Bydd llu o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru eleni, er mwyn i denantiaid ddysgu sgiliau newydd, arbed arian a chael gwared ar eu heitemau diangen yn gywir.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sy’n cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Owen Derbyshire:

“Mae tipio anghyfreithlon wedi bod ar gynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r aflonyddwch a achosir gan y pandemig yn cael effaith amlwg ar lendid ein cymunedau. Mae eitemau sy’n cael eu dympio ar y stryd yn costio miliynau i awdurdodau lleol i gael gwared arnynt, ac – yn syml – mae’n edrych yn ofnadwy”
“Mae ein hymgyrch newydd yn ceisio annog cymunedau ledled Cymru i gadw eu hardaloedd lleol yn rhydd o wastraff cartref a dweud ‘Nid ar fy stryd i”

“Diolch byth, nid yw uwchgylchu a thrwsio eitemau erioed wedi bod yn fwy poblogaidd. Dyna pam rydyn ni’n gyffrous i fod yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i helpu cymunedau i wneud eu rhan, trwy ein digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ac yn ein caffis trwsio dros dro.”

“Mae cael gwared ar eich eitemau cartref diangen yn haws nag yr ydych chi’n meddwl, ac – yn hollbwysig – yn rhatach na dirwy.”