Members of CCG and Cwmni Nod Glas in the woodland

Tir am ddim er budd y gymuned

Mae Cymdeithas leol yn Ninas Mawddwy wedi ymgymryd â pherchnogaeth darn o goetir yng nghanol eu pentref.

Cymdeithas dai Adra oedd berchen y tir a gafodd ei roi am ddim i Gwmni Nod Glas fel rhan o’i strategaeth gwaredu tir.

Mae Cwmni Nod Glas cyf. yn fenter gymdeithasol gyda’r nod o geisio gwneud ardal Mawddwy yn fwy cynaliadwy.

Mae’r coetir yn ffurfio rhan o’r hen ystâd o’r enw Y Plas, plasty a gwblhawyd ym 1872, ond a ddymchwelwyd yn y ’60au. Mae rhai olion o hyd o’r hen ardd furiog ar y safle a rhodfa fach o goed ywen.

Meddai’r Cadeirydd, Elwyn Jones: “Ein bwriad ar gyfer y coetir yw i gynnig cyfle i bobl leol gael dweud eu dweud ar ddyfodol y coetir a lle y gellir ymgymryd â phrosiectau os mai dyna yw’r bwriad ac i reoli fel ei fod yn fuddiol i bawb sy’n ei ddefnyddio.”

Ychwanegodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Adra: “Rydym wastad yn awyddus i ffurfio partneriaethau newydd a gweithio gyda grwpiau cymunedol er budd ein cymunedau. Mae’r amgylchedd, diwylliant a llesiant i gyd yn themâu allweddol yn ein cynllun corfforaethol newydd a dwi’n hyderus y bydd defnydd Cwmni Nod Glas o’r tir yn cynnig buddion ynghlwm â’r themâu hyn i’r gymuned.

Gyda’r safle wedi’i sicrhau ar gyfer y gymuned, bydd Cwmni Nod Glas (CNG) yn cynnal cyfres o ymgynghoriadau yn y pentref a digwyddiad yn y coetir yn ystod y misoedd nesaf er mwyn deall beth hoffai’r trigolion lleol ei wneud . Ar ôl i’r holl ymatebion gael eu casglu, bydd cynllun gweithredu yn cael ei greu a’r nod tymor hir yw y bydd grŵp o drigolion yn helpu i gyflawni’r cynllun gyda chefnogaeth gan sefydliadau eraill.

Dywedodd Arfon Hughes Ysgrifennydd CNG: “Mae’r broses wedi cymryd cryn amser i’w chwblhau, ond rydym yn ddiolchgar i Adra am y cyfle i sicrhau’r adnodd cymunedol gwych hwn i’r holl drigolion nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Liz Mutch, Swyddog Datblygu gyda sefydliad coetir cymunedol Llais y Goedwig: “Mae trosglwyddo ased coetir yn gysyniad cymharol newydd yng Nghymru. Bydd Llais y Goedwig yn cynhyrchu astudiaeth achos o’r prosiect hwn fel y gall sefydliadau eraill a grwpiau cymunedol ddysgu o’r broses hon.”