A photo from the meeting in Caernarfon

Tlodi a chostau byw ar agenda adran Cwsmeriaid a Chymunedau  

Ymateb i heriau tlodi a’r argyfwng costau byw oedd ar yr agenda mewn cyfarfod arbennig yng Nghaernarfon yr wythnos hon.

Bu timau Cwsmeriaid a Chymunedau Adra yn cymryd rhan yn y digwyddiad a chafwyd cyflwyniadau gan Iwan Trefor Jones, y Dirprwy Brif Weithredwr yn son am ymrwymiad Adra i ymateb i’r heriau a throsolwg gan Steffan Evans, Pennaeth Polisi Sefydliad Bevan o’r sefyllfa genedlaethol.

Roedd arolwg barn ddiweddar gan Sefydliad Bevan wedi dangos:

  • Bod 6% o ymatebwyr wedi gorfod mynd heb yr eitemau sylfaenol
  • 39% wedi mynd heb wres yn eu cartrefi
  • 18% ddim yn cymryd bath neu gawod
  • 24% wedi torri lawr ar faint o fwyd oeddynt yn ei brynu ac /neu wedi methu prydau bwyd
  • 5% wedi ymweld â banc bwyd
  • 28% o bobl wedi benthyg arian
  • 30% o bobl yn dweud fod yr argyfwng wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforaethol.

Dywedodd Iwan Trefor Jones: “Mae tlodi yn faes sydd o flaenoriaeth allweddol i ni fel cwmni a sut ’da ni’n cefnogi cymunedau a’r mwyaf bregus yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’n bwysig bod gennym ni gynlluniau i ymateb i anghenion ein cymunedau.

Roedd nifer o ardaloedd yng Ngwynedd yn ddifreintiedig ac yn dioddef o dlodi cyn yr argyfwng ariannol ond mae’r costau byw cynyddol wedi dwysau’r problemau.

Mae angen i ni fod yn flaengar yn y maes hwn ac mae  gweithio mewn partneriaeth yn hynod o bwysig er mwyn i ni gyd-gynllunio ein hymateb. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwarchod buddiannau’r tenantiaid a bod gennym ni’r hyder fel sefydliad i weithredu a herio ar eu rhan.

Da ni eisiau gweld yr elfen tlodi uchelgais yn newid a chynnig gobaith o ddyfodol gwell i’n cymunedau a phobl ifanc yn benodol. Wrth gwrs mae gwella lefelau incwm yn hynod o bwysig ond rhaid peidio colli golwg o’r angen am greu cyfleoedd i gymunedau ac unigolion i ffynnu.

Dywedodd Sion Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Cwsmeriaid ac Asedau: “Roedd y cyfarfod yn un hynod fuddiol wrth i ni gael swyddogion at ei gilydd i drafod sut y gallwn gyfrannu at ein Cynllun Tlodi a’r gwaith sydd eisoes yn mynd ymlaen fel rhan o Grŵp Argyfwng Costau Byw Gwynedd.

“Mae llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud o ganlyniad i’r argyfwng ond mae angen syniadau ffres ac roedd hi’n bwysig clywed gan ein swyddogion sy’n delio gyda’n cwsmeriaid o ddydd i ddydd ac mewn sefyllfa dda i wybod yn union beth yw’r heriau a syniadau ar sut i’w datrys.

“Cafwyd trafodaethau da ymysg y timau  a hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd am eu hymrwymiad. Mi fydd yr holl wybodaeth a’r syniadau a gafodd eu cyflwyno a’u rhannu yn cael eu hystyried a’u bwydo mewn i’n cynlluniau”.