200 o dai fforddiadwy newydd yng Ngwynedd ar gyfer pobl lleol

Mae teuluoedd wedi symud i mewn i’w cartrefi fforddiadwy ar draws Gwynedd wrth i ni gyrraedd y garreg filltir o adeiladu 200 o dai yng Ngwynedd, gan gyfrannu at daclo’r argyfwng tai yng ngogledd Cymru.

Fel rhan o’n cynllun uchelgeisiol £198 miliwn i adeiladu 1,200 o gartrefi newydd hefo partneriaid erbyn 2025, rydym wedi cwblhau tai newydd yn ardaloedd gwledig a dinesig yng Ngwynedd.

Gyda phrisiau uchel ail dai mewn ardaloedd megis prisiau uchel Pen Llŷn, mae pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad hefo’r prinder opsiynau tai.

Mae ein holl dai fforddiadwy newydd sydd ar gael o dan wahanol gynlluniau wedi eu cwblhau i ansawdd uchel ac mae’r rhai sydd wedi eu cwblhau yn ddiweddar megis Clwt y Bont, Deiniolen yn cynnwys pympiau gwres o’r ddaear a phaneli ffotofoltäig wrth weithio hefo contractwyr lleol i leihau ôl troed carbon a defnyddio Dulliau Modern o Adeiladu fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i adeiladu’n fwy ac yn gyflymach.

Fel rhan o’n rhaglen datblygu, rydym yn gweithio ar 130 o gartrefi ychwanegol sydd ar safle yng Ngwynedd, hefo mwy ‘na 200 o dai ychwanegol i ddod ar draws Gwynedd.

Mae gennym dai newydd wedi eu hadeiladu yn ne Gwynedd megis Aberdyfi, yn ogystal â Dolgellau, Abererch, Bangor, Cricieth a Chaernarfon ac ar gael ar sail rhent cymdeithasol neu opsiynau fforddiadwy. Rydym hefyd yn datblygu 28 o fflatiau pwrpasol ar y cyd hefo Cyngor Gwynedd yn Frondeg, Pwllheli, sydd ar gael i gwsmeriaid cymwys o ardal Llŷn a’r cynllun cyntaf o’i fath yn nhref wledig y Bala a fydd yn cynnwys naw o dai.

Mae rhaglen datblygu Adra wedi gweld tŵf sylweddol ac wedi tyfu wrth gydweithio â chontractwyr lleol fel Gareth Morris Construction, gan gefnogi Busnesau bach a Chanolig a’r gadwyn gyflenwi leol, gan gyfrannu i’r economi lleol. Pum mlynedd yn ôl, dau oedd yn gweithio yn ein tîm datblygu gan weithio ar 18 o dai ar safle, bellach mae yna 12 o fewn y tîm yn gweithio ar 450 o dai ar safle.

Mae Iwan Trefor Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr yn goruchwylio ein rhaglen datblygu. Dywedodd:

“Rydym yn falch o dwf ein rhaglen datblygu a’r buddsoddiad sylweddol yng Ngwynedd.  Byddwn yn adeiladu ar y gwaith yma ac yn parhau i gydweithio  â’n hystod eang o bartneriaid i ddarparu tai fforddiadwy newydd a chyfrannu at ymateb i’r argyfwng tai.

“Rydym yn gweithredumewn ffordd ragweithiol a chadarnhaol er mwyncefnogi cymunedau ar draws Gwynedd.Mae gofyn anferthol ac angen difrifol am dai fforddiadwy yn lleol.

“Mae 60% o aelwydydd yng Ngwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Y nod ydi sicrhau bod cyflenwad o dai fforddiadwy newydd ar gael i bobl leol, ifanc a theuluoedd, drwy’r tai newydd ydym ni yn yneu hadeiladu.

Dywedodd Y Cynghorydd ac Aelod Cabinet Tai, Craig ab Iago:

“Mae’n newyddion gwych i deuluoedd lleol a phobl ar draws Gwynedd bod Adra wedi cwblhau 200 o dai newydd ar draws ein Sir, ar gyfer pobl sydd wir angen tai fforddiadwy..

“Mae gennym bartneriaeth gref hefo Adra ac rydym yn croesawu’r ymrwymiad i bobl Gwynedd. Mae prinder opsiynau tai ar gyfer pobl leol yn un o’r prif heriau yng Ngwynedd heddiw ac rwyf yn hyderus bod twf Adra yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gynnal ein cymunedau, o ran tai, swyddi a chyfleoedd yn lleol.”

Dywedodd Natasha Evans, ein cwsmer o Gricieth sy’n byw yn un o’r 200 o gartrefi fforddiadwy newydd:

“Ges i fy ngeni a fy magu yng Nghricieth ac roeddwn eisiau fy nghartref fy hun yma i fagu teulu.  Mae prisiau tai mor uchel, roedd rhaid i fi symud o’r gymuned. Dwi wedi gallu dychwelyd i Gricieth drwy gael tŷ fforddiadwy drwy Adra, dwi nawr yn byw yn agos i fy ffrindiau a fy nheulu ac mae gen i dŷ cyffyrddus am bris fforddiadwy mewn cymuned sy’n bwysig i mi.”