Picture of a room full of people at the conference.

Ymrwymiad i gyd-weithio yng nghynhadledd y Gymraeg

Daeth dros 60 o bobl i gynhadledd yng Ngwynedd ar 30 Ebrill i drafod dyfodol y Gymraeg.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi trefnu cynhadledd ‘Iaith ar Waith’ a’i chynnal yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes. Ymhlith y siaradwyr roedd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr; Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg; Bethan Griffiths o Lywodraeth Cymru; Dr Simon Brooks o’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg; Sian Morris Jones o’r Urdd ac Iwan Hywel o Fenter Iaith Gwynedd.

Cynhaliwyd y gynhadledd i gychwyn sgwrs ar weithredu’r Safonau’r Gymraeg arfaethedig yn y sector tai dros y 18 mis nesaf. Roedd hefyd yn gyfle i edrych ar y gwaith y mae sefydliadau yn ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw yn y gweithle ac mewn cymunedau.

Roedd y rhai fynychodd y gynhadledd yn cynrychioli nifer o sectorau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, awdurdodau lleol, iechyd, tân ac achub, mentrau iaith, grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n frwd dros y Gymraeg.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr: “Roeddem wrth ein bodd yn cynnal y digwyddiad hwn – y cyntaf o’i fath yn y sector tai ac roedd y diddordeb yn y gynhadledd yn dangos yr ymrwymiad i ddatblygu’r Gymraeg ac angerdd i wneud gwahaniaeth go iawn.

“Mae cysylltiad amlwg rhwng tai, swyddi, economi, diwylliant a’r Gymraeg ac roedd y gynhadledd yn gyfle i rannu manylion am ein gwaith ni, ond hefyd i glywed gan sefydliadau eraill am y modd y maen nhw’n gweithio.

“Roedd y gynhadledd yn tynnu sylw at yr angen i sefydliadau a chymunedau gydweithio, i sicrhau bod cynlluniau a pholisïau’n cyd-fynd a bod gweithgareddau Cymraeg a gwaith hyrwyddo yn ategu ei gilydd.

“Wrth i ni weithio tuag at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae cyfle gwych i ganolbwyntio ar adnabod y gweithgareddau hynny a fydd yn cael effaith gadarnhaol hirdymor ar y Gymraeg. Mae rhannu syniadau a chyfuno adnoddau yn hollbwysig os ydym am gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau.

“Byddwn nawr yn parhau â’r sgwrs, gan gysylltu â phartneriaid a chymunedau i drafod y ffordd ymlaen”.