Tenants and residents in a meeting

Ymunwch gyda ein Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr

Cafodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ein Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr ei gynnal yn Galeri Caernarfon, 27 Mehefin. Mae’r Bartneriaeth yn sicrhau bod barn Tenantiaid a Phreswylwyr yn cael ei glywed wrth i ni wneud penderfyniadau yn ymwneud a gwasanaethau sy’n cael ei ddarparu i gwsmeriaid.

Mae’r Bartneriaeth wedi bod yn brysur iawn dros y flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda ni drwy ddylanwadu ar y materion isod:

• gwefan newydd fydd yn cael ei lansio mis Hydref eleni

• y prosiect ail-frandio

• ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2019 – 2022

• polisi Trwsio Ad-daladwy

• adolygu’r Fframwaith Gyfranogi Cwsmeriaid i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael cyfle i ddylanwadu ar y gwasanaethau rydych yn derbyn.

Mae’r Bartneriaeth yn agored i bawb sy’n denant neu yn breswylwyr, mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar draws y sir, ac rydym yn ad-dalu costau teithio, trefnu tacsi, darparu cinio ac yn talu costau gofal plant er mwyn eich galluogi i fynychu cyfarfodydd.

Mae cyfarfodydd Y Bartneriaeth yn rhoi cyfle i chi ddylanwadu ar y gwasanaeth rydych yn derbyn, yn ogystal â dod i wybod mwy am y cwmni ac unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech ddysgu fwy am waith Y Bartneriaeth, neu os ydych yn dymuno mynychu’r cyfarfod nesaf, cysylltwch gyda’r Tîm Cyswllt Cymunedol am sgwrs: cymunedol@adra.co.uk