Photo of local councillors and Adra Officers in front of a bungalow at Cae Rhsoydd

Ymweliad â Cae Rhosydd i weld y datblygiad tai diweddaraf

Croesawodd Adra a Williams Homes Bala, ddirprwyaeth o Gyngor Gwynedd a Chyngor Cymuned Bethesda’r wythnos hon i weld sut mae hen dir fferm llawn hanes ger Rachub wedi cael ei drawsnewid i greu datblygiad tai fforddiadwy.  

Llun o'r awyr o stad Cae Rhosydd

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru wedi datblygu’r safle i gynnwys 30 o gartrefi modern, gan gynnwys 26 tŷ a 4 byngalo, sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolraddol.  

Mae’r holl dai ar y datblygiad gyda thystysgrif perfformiad egni (EPC) o A, gyda phaneli solar ac yn cael eu gwresogi gyda Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer.  

Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chymdeithasau Tai fel rhan o Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd sydd yn anelu at gyflawni nod y Cyngor o godi 700 o dai cymdeithasol ar draws y sir erbyn 2026/27. 

Dywedodd Gareth Davies-Jones, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn falch iawn o weld y datblygiad wedi’i gwblhau.   

“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd ynni effeithlon, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o safbwynt rent a costau gwresogi.”  

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo: “Mae Gwynedd mewn argyfwng tai ac mae’r galw am dai fforddiadwy o ansawdd yn llawer uwch na’r cyflenwad sydd yn y sir. Fel Aelod Cabinet Tai ac Eiddo felly, rydw i felly’n falch iawn o’r berthynas sydd gennym gyda Phartneriaid Tai fel Adra wrth i ni gydweithio i geisio lleddfu’r broblem yma i drigolion Gwynedd.”  

“Mae sicrhau bod tai fforddiadwy Gwynedd yn fwy gwyrdd, yn ynni-effeithiol ac yn lleihau ôl troed carbon yn bwysig iawn i mi ac i’r Cyngor, ac mae’n wych ac yn glod i Adra eu bod yn codi cartrefi newydd sy’n cyd-fynd efo’r egwyddor allweddol yma.”