Ymweliad pwysig i Dŷ Gwyrddfai, hwb datgarboneiddio cyntaf ym Mhrydain

Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James wedi gweld â’i llygaid ei hun y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu hwb datgarboneiddio yng Ngwynedd, y cyntaf o’i fath yn y DU. 

Mae Cymdeithas Tai Adra yn arwain ar y gwaith o adnewyddu hen ffatri bapur Northwood ym Mhenygroes a gaeodd bedair blynedd yn ôl lle gollwyd bron i 100 o swyddi gweithgynhyrchu. Mae’r datblygiad, a elwir yn Tŷ Gwyrddfai, yn brosiect ar y cyd rhwng Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor. Bydd y safle yn cael ei drawsnewid yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod Gogledd Orllewin Cymru yn flaenllaw yn yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod dros 18,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf. 

Yn ystod ymweliad â Thŷ Gwyrddfai heddiw (dydd Gwener, 4 Awst), clywodd y Gweinidog gan Grŵp Llandrillo Menai a fydd yn rheoli rhaglen hyfforddi bwrpasol ar y safle. Byddant yn cyflwyno sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu wedi’u teilwra i bobl ifanc ac aelodau presennol y gweithlu adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris. 

Trwy gyfranogiad Prifysgol Bangor, bydd Tŷ Gwyrddfai hefyd yn hyrwyddo arloesedd mewn cynhyrchion, deunyddiau a thechnoleg newydd i gefnogi datgarboneiddio ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Bydd “Labordy Byw” yn cael ei sefydlu i brofi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio. 

Mae Tŷ Gwyrddfai eisoes yn gartref i brif swyddfa Trwsio, contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff. Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a’i gontractwyr. 

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Rydym wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda’r hwb datgarboneiddio. 

“Bydd y datblygiad yn arwain at weithlu mwy cymwys a medrus, a fydd yn cefnogi’r sector adeiladu lleol ac yn sicrhau bod unrhyw werth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio a buddsoddiad cyfalaf a fydd ynghlwm â hynny yn cael ei gadw’n lleol. Bydd hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid. 

Mae cyffro gwirioneddol ymhlith y partneriaid ac yn y rhanbarth am botensial y prosiect hwn a’r gwerth cymdeithasol a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei gyflawni i gymunedau lleol a’r economi leol. Rydym ar y trywydd iawn i agor y cyfleusterau hyfforddi yn ddiweddarach eleni”. 

Paul Bevan, Cyfarwyddwr Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, – Mae prosiect Tŷ Gwyrddfai yn enghraifft wych o sut, trwy weithio’n agos gydag Adra, y gallwn ddarparu’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen ar y gadwyn gyflenwi gyfan. Ein gweledigaeth ar gyfer y cyfleuster yw dod â’r hyfforddiant arbenigol mewn technolegau di-garbon a ddarparwyd eisoes yng Nghanolfan Seilwaith, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) Busnes@LlandrilloMenai i galon diwydiant a’r gymuned. Bydd hyn yn cefnogi twf sgiliau a gwybodaeth yn y gweithlu i yrru’r gwaith o gyflwyno technolegau a gwasanaethau datgarboneiddio ac ôl-osod, gan baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.  

“Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i fusnesau a chwmnïau lleol arwain y ffordd yn y newid i ddyfodol mwy cynaliadwy, gan greu swyddi a thwf economaidd wrth leihau allyriadau carbon a chost ynni i drigolion. Bydd yr adnoddau hyn yn sicrhau bod busnesau lleol yn y sector adeiladu yn gallu manteisio ar gyfleoedd newydd sy’n deillio o ddatgarboneiddio ac ôl-osod tai”. 

Dywedodd Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig a Phartneriaethau Strategol ym Mhrifysgol Bangor “Mae’r cyd-weithio sy’n digwydd yn Nhŷ Gwyrddfai yn darparu ffordd werthfawr i’r Brifysgol drosi ei hymchwil cynaliadwyedd yn gymwysiadau byd go iawn. Mae’n rhoi ymchwil a datblygu o safon fyd-eang Prifysgol Bangor wrth galon yr agenda datgarboneiddio lleol a rhanbarthol. Bydd y Labordy Byw yn helpu i brofi a datblygu cynnyrch i ôl-ffitio a datgarboneiddio stoc tai nid yn unig ar gyfer gwaith Adra, ond ar draws y sector.”