Llun o'r ymweliad yn y Groeslon

Ymweliadau stadau gan Adra yn parhau

Diolch yn fawr i’n tenantiaid am y croeso yn y Groeslon, Caernarfon nos Fercher 02/06/2023.

Mi oedd yr ymweliad yn rhan o’n taith Ymweliadau Stad eleni.

Bob blwyddyn byddwn yn anelu i ymweld â thua 10% o’n heiddo fel rhan o’r ymweliadau. Nod yr ymweliadau yw rhoi cyfle i’n staff ac ein haelodau bwrdd gyfarfod a sgwrsio gyda’n tenantiaid yn ein cymunedau a clywed adborth am ein gwasanaethau

Rydym hefyd wedi ymweld â thenantiaid yn Nolgellau, Penmaenmawr, Deganwy, Dyffryn Ardudwy, Ynys, Abergele a Sychnant eleni a’r bwriad ydi ymweld â dros 400 o’n tenantiaid ym Mhwllheli, Bangor a Caernarfon dros y misoedd nesa.

Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod a chlywed eich barn.