Profiad gwaith

Credwn y gall profiad gwaith fod yn werthfawr i ddysgu am fywyd gwaith a’r amgylchedd gwaith. Gall hefyd eich helpu i wneud penderfyniadau am eich gyrfa. 

Mae yna lawer o lwybrau gyrfa gwahanol a diddorol yn y byd Tai. Trwy brofiad gwaith rydym am ddangos i chi pa lwybrau gyrfa y gallech eu dilyn efo ni.  

Gallwn gynnig gwahanol fathau o brofiad gwaith efo ni:

  • Os ydych chi’n fyfyriwr blwyddyn 10 neu’n fyfyriwr UG / Safon Uwch gallwn gynnig wythnos
  • Os ydych chi’n fyfyriwr israddedig gallwn gynnig profiad tymor hir

Byddech yn cael ei lleoli mewn Cyfarwyddiaeth neu gymysgedd o’r tri yn dibynnu ar eich diddordebau ac os yw ein staff ni ar gael.

Mae ein Cyfarwyddiaeth Cwsmeriaid a Chymunedau yn cynnwys yr adrannau yma 

  • Gwasanaeth Cwsmer a Gosod 
  • Gosod 
  • Rhent 
  • Gwasanaethau Bio
  • Tai Cefnogol

Nhw sydd â’r cyswllt mwyaf efo’n cwsmeriaid ni ac yn helpu ein cwsmeriaid i gadw eu tenantiaeth.

Gall hyn fod trwy: 

  • rhoi cartrefi addas iddyn nhw 
  • help i reoli a thalu eu rhent  
  • rhoi trefn ar unrhyw ffraeo rhwng cymdogion
  • rhoi unrhyw help arall, fel llety gwarchod

Mae ein Cyfarwyddwr Adnoddau yn cynnwys yr adrannau yma

Byddai gwaith yn ein Adran Adnoddau yn cynnwys: 

  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu 
  • Cyllid a Chaffael 
  • Adnoddau Dynol 
  • Llywodraethu gan gynnwys cyfreithiol a chyfieithu 

Maent yn cynnwys yr holl wasanaethau corfforaethol neu ganolog. Mae’r adrannau yn y gyfarwyddiaeth hon yn rhoi cefnogaeth i bawb yn y cwmni fel bod staff yn gallu gwneud eu gwaith.

Gall hyn olygu cefnogaeth fel: 

  • TG 
  • Cyngor gan ein tîm AD 
  • Cyllid yn talu anfonebau  

Mae ein Cyfarwyddiaeth Asedau ac Isadeiledd yn cynnwys yr adrannau yma 

  • Adeiladu a Datblygiadau o’r newydd 
  • Trwsio, Cynnal a Chadw 
  • Archwiliadau i Eiddo 
  • Cydymffurfio e.e. Asbestos, nwy 
  • Tir a Chyfleusterau 

Maent yn cynnwys yr holl waith adeiladu / adeiladu a wnawn ac yn gofalu am ein holl stoc dai. Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod ein tai a’n hasedau yn cwrdd â safon Llywodraeth Cymru. Dyma lle mae ein tîm trwsio mewnol wedi’i leoli   

Mae ein tîm trwsio yn cynnwys:  

  • gwaith coed 
  • plastro 
  • plymio 
  • trydanol 
  • gwaith toi ayb ar ein tai  
  • ein timau Adeiladu o’r Newydd a rheoli contractwyr  

Sut i wneud cais  

Os ydych eisiau ymuno efo ni am brofiad gwaith, llenwch y ffurflen gais am brofiad gwaith.

Cysylltwch efo ni am sgwrs i ddarganfod mwy.