1 & 2 Craigle, Lôn Abererch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5LR
Tŷ pâr yn Gwynedd
3 1 1
Disgrifiad Llawn:
Cynllun: Rhent Canolraddol
Rhent Misol: £618.86
Isafswm Incwm cartref sydd angen: £24,755
Rhaid talu mis o rent fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal â rhent am y mis cyntaf.
Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS)
Meini Prawf preswylio lleol
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Pwllheli).
Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:
- Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol am lai na 5 mlynedd.
- Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd
- Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis
Mae’n rhaid cofrestru gyda Tai Teg os oes gennych ddiddordeb byw yn y cartrefi yma.
Mae Tai Teg yn asesu eu ceisiadau ar sail dyddiad – felly cofrestrwch mor fuan a phosibl gan nodi Pwllheli fel ardal y byddwch yn dymuno byw ynddi.
Pwy yw’r Landlord?
Cyngor Gwynedd sydd yn berchen ar yr eiddo ond Adra fydd eich Landlord. Bydd eich cytundeb gyda Adra.
Mae’n rhan o gynllun newydd Prynu i Osod gan Cyngor Gwynedd
Mwy o wybodaeth am y Cynllun Prynu i Osod
Sut mae ymgeisio am yr eiddo?
Rhaid cofrestu gyda cofrestr tai Fforddiadwy Tai Teg.
Gallwch wneud hyn ar wefan Tai Teg.
Sicrhewch eich bod wedi darllen yr meini prawf ac eich bod yn gymwys cyn cofrestru. Gall ceisiadau cymeryd hyd at 5 diwrnod gwaith i’w derbyn. Nid oes modd ceisio am yr eiddo heb gofrestru gyda Tai Teg.
Bydd diwrnod agored yn gael ei gynnal ar:
- Ddydd Mercher 21/02/2024.
- 14:00 – 18:00
I archebu amser ymweld ebostiwch: tai@adra.co.uk