Tai Teg – Tai Fforddiadwy
Rydym yn gweithio efo Tai Teg i gynnig cynlluniau tai fforddiadwy.
Y Gwahanol gynlluniau
Mae yna 7 cynllun gwahanol:
- Rhent Canolradd
- Prynu Cartref
- Rhan Ecwiti
- Eiddo Adran 106 ar Ddisgownt
- Rhan Berchnogaeth
- Rhentu i’w Brynu
- Benthyciad Pontio
Bydd rhaid cofrestru efo Tai Teg i fod ar y gofrestr i gael un o’r cartrefi yma.
Cewch gofrestru am ddim.
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn ôl dyddiad cofrestru.
Ydych chi’n gymwys?
I fod ar gofrestr Tai Teg rhaid i chi fodloni’r meini prawf yma:
- Oedran – rhaid i chi fod dros 18 mlwydd oed.
- Ariannol – incwm cartref gros blynyddol rhwng £ 16,000.00 a £ 45,000.00
- Cyflogaeth– rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth rhan amser neu lawn amser. Bydd rhaid bod gennych incwm i gynnal yr eiddo.
- Fforddiadwy – ni allwch fforddio i rentu ar y farchnad agored a/neu brynu eiddo sy’n addas i’ch anghenion.
- Llety – i fod naill ai’n brynwr tro cyntaf neu os yw’r cartref presennol yn anaddas
- Cysylltiad Lleol – bydd rhaid i chi fod â chysylltiad lleol â’r ardal rydych yn dewis byw ynddi e.e. yn byw, gweithio neu gyda theulu ,
- Eithriad – Personél Gwasanaeth – Rydym yn ystyried ceisiadau hyd yn oed os yw’r incwm yn `zero’.
-
Cynllun Rhent Canolradd
Mae’r cynllun yma yn opsiwn da i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref.
- mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn llwyr ddibynnol ar fudd-daliadau.
- gosodir rhent ar o fewn Lwfans Tai Lleol neu dim mwy na 80% o’r rhenti farchnad agored.
-
rydym yn cynnal gwiriad i weld os gall ymgeiswyr fforddio tenantiaeth a ymchwilio i statws credyd yr ymgeiswyr i sicrhau y gallwch fforddio’r denantiaeth
- bydd angen talu mis o rhent o flaen llaw a bydd angen talu swm sydd gyfartal â rhent un mis yn cael ei gymryd fel blaendal.
Mae’r cynllun rhent yma yn rhoi cyfle i gwsmeriaid gasglu blaendal er mwyn prynu eu cartref eu hunain yn y dyfodol.
Os nad oes unrhyw ymgeisydd yn cwrdd â’r meini prawf. Bydd ymgeiswyr o gymunedau cyfagos o fewn yr Awdurdod Lleol yn cael eu hystyried.
Nodwch, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ymgeiswyr cymwys yn ôl trefn dyddiad mae’r ceisiadau yn cael eu derbyn.
Mae pob cartref rhent canolraddol yn cael eu gosod ar Denantiaeth Aswiriedig Byrddaliol.
Bydd y denantiaeth am gyfnod cychwynnol o 6 mis.
Bydd yn parhau ar sail cyfnodol ar yr amod bod y denantiaeth yn cael ei gynnal yn foddhaol
-
Prynu Cartref
Cefnogir y cynllun yma gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Cynefin.
Gall eich helpu os na fedrwch chi fforddio prynu tŷ.
- bydd gofyn i chi ariannu hyd at 70% o bris yr eiddo, gyda morgais a/ neu gynilion personol.
- bydd angen i chi gael morgais
- Bydd Grŵp Cynefin yn benthyca’r 30% arall i chi. Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn gynyddu i 50%
- mae angen blaendal bach o 5%
- Does dim llog yn daladwy ar y benthyciad gan Grŵp Cynefin.
Manylion llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
-
Rhan Ecwiti
Caiff hwn fel arfer ei gynnig ar gartrefi wedi eu prynu gan:
- datblygwr
- cymdeithas dai/awdurdod lleol
- eiddo ail-law a brynwyd yn y gorffennol
Bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio â’r meini prawf yn Adran 106. Dogfen gyfreithiol yw hon. Mae Adran 106 yn golygu bod rhaid i chi gael cysylltiad lleol.
- Bydd angen i chi gael o leiaf 5% o flaendal
- mae’r benthyciad ecwiti yn gallu amrywio a byddai’n ofynnol i chi allu cyllido’r gweddill drwy forgais neu gynilion.
- bydd y benthyciad ecwiti yn cael ei sicrhau yn erbyn eich eiddo
- ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad
mewn rhai amgylchiadau ni fydd Tai Teg yn ad-dalu’r benthyciad
-
Eiddo 106 ar Ddisgownt
Dyma gynllun lle mae’r datblygwr yn adeiladu tai ac yn eu gwerthu ar bris disgownt.
Bydd hwn yn is na phris y farchnad agored.
- bydd y % disgownt yn cael ei gytuno yn ystod y broses cynllunio
- bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â meini
- prawf Adran 106 e.e. cysylltiad lleol.
- bydd angen cyfrannu 20% o flaendal
-
Rhan Berchnogaeth
Dyma gynllun lle gallwch brynu cyfran o’r cartref a thalu rhent ar y gyfran arall.
- gallwch brynu cyfran gychwynnol rhwng 25% a 75% o werth eich cartref
- rhaid ichi gael morgais ar gyfer y gyfran o’r cartref yr ydych yn ei phrynu
- gallwch gynyddu eich cyfran yn yr eiddo ar unrhyw adeg
- chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r eiddo hyn yn oed os ydych yn talu rhan o’r rhent
- Fydd yn ofynnol i chi ddarparu tystlythyr landlord
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
-
Rhentu i'w brynu
Cewch gyfle i brynu’r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfran i gyfrannu at flaendal morgais.
Mae hwn yn wych os ydych eisiau prynu tŷ ond heb ddigon o arian ar gyfer blaendal.
- byddwch yn rhentu’r cartref yn y lle cyntaf,
- Cewch 25% o’r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth yn ôl i ddefnyddio fel blaendal
- os bydd eich cartref yn cynyddu yn ei werth yn ystod y cyfnod rhentu, cewch ddefnyddio 50% ohono tuag at eich blaendal
- Mae cynlluniau rhentu i’w brynu yn para am bum mlynedd.
- gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb
- Mae’n bosib y bydd yn ofynnol i chi ddarparu tystlythyr landlord
am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
-
Hunan Adeiladu A106
Dyma gynllun lle mae gan y Cyngor neu berchennog dir i adeiladu eiddo Fforddiadwy arno:
- Rhaid cwrdd â’r meini prawf
- Byddwch yn talu am yr holl gostau dylunio ac adeiladu
-
Benthyciad Pontio
mae’n bosib y bydd y Cyngor yn gallu rhoi ‘benthyciad pontio’ hyd nes y bydd y cartref wedi ei adeiladu i safon dderbyniol fel bod modd cael morgais arno.
Cysylltwch â ni am fwy o fanylion am y cynllun.