picture of two academi adra plaid work placements employees Dylan a Tomos Academi Adra

Academi Adra yn arwain at leoliad Gwaith gyda thâl i dri lleol

Ers ei sefydlu nôl yn 2021,mae cyrsiau Academi Adra yn mynd o nerth i nerth.
Un o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd yw ein cwrs Adeiladwaith. 

Dyma’r cwrs yr oedd Trystan, Dylan a Tomos yn rhan ohono yn ddiweddar. 

Mae’r cyrsiau yn rhoi wythnos o hyfforddiant yna wythnos o brofiad Gwaith, unai gydag ein tîm ni yn Adra neu gydag un o’n Partneriaid ni. Ar ôl pythefnos mae cynnig i bawb ymgeisio am leoliad gwaith gyda thâl. 

 

Bu Trystan, Dylan a Tomos yn llwyddiannus yn eu cyfweliadau a chafodd y tri gynnig lleoliad Gwaith gyda thâl trwy Academi Adra. 

 

Lleoliad gwaith gyda thâl

Mae Trystan ar leoliad Gwaith, gyda thâl, am 16 wythnos gydag ein partner Williams Homes. Mae’n rhan o’r tîm sydd yn gweithio am ddatblygiad 10 miliwn o bunnoedd i ddarparu 41 o gartrefi fforddiadwy i ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ym Mhenrhyndeudraeth. 

 Mae’r cartrefi yma yn hynod effeithlon o ran ynni, maent yn cael eu hadeiladau yn defnyddio technoleg gwyrdd.    

Dywedodd Ceri Ellis- Jackson, Arweinydd Rhaglen Academi Adra:

 “Rydym yn hynod ddiolchgar i Williams Homes am gyd-weithio a chynnig cyfle unigryw fel hyn i bobl ifanc leol i gael dysgu am y dulliau adeiladu diweddaraf o fewn eu cymunedau.  Rydym yn edrych ymlaen at gyrsiau gychwyn ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn ein Canolfan Datgarboneiddio ni, Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, i addysgu dysgwyr am y dulliau adeiladu mwyaf gwyrdd.  

Mae’n braf gweld dysgwyr Academi Adra yn mynd ymlaen i gael lleoliad Gwaith gyda thâl ac yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy o fewn ein cymunedau ni trwy fod yn rhan o’r broses o ddarparu tai fforddiadwy newydd i Clwyd Alyn a Grŵp Cynefin.” 

 

Tŷ Gwyrddfai

Trwy ein cyrsiau yn Nhŷ Gwyrddfai byddwn yn addysgu pobl leol am y dulliau adeiladu gwyrdd diweddaraf fydd yn golygu fod talent a sgiliau lleol yn aros yn lleol er mwyn  datgarboneiddio ein cartrefi ni. 

Tra mae Trystan yn brysur yn adeiladu cartrefi ym Mhenrhyndeudraeth, mae Dylan a Tomos yn brysur gyda’n gweithlu trwsio. Rydym yn falch fod ein gweithlu profiadol ni yn gallu addysgu’r to nesaf o adeiladwyr, seiri, trydanwyr a phlastrwyr. 

Gan fod gan Tomos gefndir mewn plastro bydd ei leoliad Gwaith ef ar un o’n cynlluniau Gwaith yn Trem yr Wyddfa, Penygroes. Fel cwmni rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a buddsoddi yn ein stoc dai presennol i wella cyflwr ein cartrefi ac i drigolion deimlo eu bod yn falch o’u cartrefi. Bydd Tomos yn chwarae rhan allweddol yn yr elfen yma o’n Gwaith fel cwmni. Gobeithio ar ddiwedd ei leoliad Gwaith gyda ni y bydd wedi datblygu a thyfu llawer fel unigolyn a bydd ei sgiliau o fydd iddo wrth chwilio am waith neu fynd ymlaen i hyfforddiant pellach yn lleol. 

“Roedd Dylan yn awyddus i gael profiad o wahanol grefftau. Gan fod gennym gymaint o swyddi amrywiol yma yn Adra, rydym wedi trefnu rhaglen gyda amrywiaeth eang o grefftau gwahanol gyda’n gweithlu. Byddd y rhaglen yn rhoi blas o wahanol agweddau o’r Gwaith a fydd yn help iddo wrth feddwl am y cam nesaf yn ei yrfa.” 

Mae cyrsiau Academi Adra yn cael eu cynnal yn rheolaidd, ewch draw i’n Gwefan i weld mwy a cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

 

a young boy putting up walls in a new build property

Mae’r prosiect hwn, Academi Adra, wedi cael £256,508 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyninant Gyffredin y DU.