Swyddi Gwag
Rydym yn darparu tai o safon yng ngogledd Cymru ac rydym yn cynnig cyfleoedd gyrfa i bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd tai mewn amgylchedd ddwyieithog.
Trwy weithio i ni gallwch wneud gwahaniaeth mawr i fywydau nifer o bobl yn eich cymuned.
Rydym yn cynnig opsiynau i weithio’n hyblyg ar gyfer nifer o swyddi, sydd yn golygu y gallwch gyfuno gweithio o gartref yn ogystal ag yn ein swyddfeydd.
Gwneud cais am swydd ar-lein Ffurflen Gais Ysgrifennedig Ffurflen Cyfle Cyfartal
Swyddi Adra
-
Cydlynydd Cyfleusterau a Chylchol
Rydym yn chwilio am Cydlynydd Cyfleusterau a Chylchol i ymuno a’r tîm Eiddo.
- £43,102.13 – £46,761.47 y flwyddyn
- 37 awr yr wythnos
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol
- Parhaol
- Tŷ Coch – Bangor
Dyddiad Cau: 26/06/2025 am 12yp
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
-
Swyddog Cynllunio Adnoddau
Rydym yn chwilio am Swyddog Cynllunio Adnoddau i ymuno a’r tîm Eiddo.
- £29,440 – £32,125 y flwyddyn
- 40 awr yr wythnos
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol
- Parhaol
- Tŷ Gwyrddfai – Penygroes
Dyddiad Cau: 04/07/2025 am 12yp
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
Rolau Bwrdd Adra
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw rolau Bwrdd ar agor. Cadwch lygad am ddiweddariadau yn fuan.
Cyfleon Academi Adra
-
Cwrs Gwasanaeth Cwsmer a Sgiliau Gweinyddol
Ydych chi dros 16 mlwydd oed ac yn chwilio am brofiad mewn gwasanaeth cwmser neu waith gweinyddol? Mae cwrs poblogaidd Academi Adra yn ôl, lle medrwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a phosibilrwydd o leoliad gwaith hefo tal ar y diwedd!
Gofynion
- Dros 16 mlwydd oed
- Medru cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg
Manylion
- Cwrs yn cychwyn dydd Llun, 7fed o Orffennaf, 2025
- Lleoliad: Tŷ Coch, Parc Menai, Bangor
Linc i gofrestru – https://forms.office.com/e/gk3wYYecGt
Sut mae’n gweithio?
Cam 1 – Cofrestrwch ar gyfer y cwrs uchod, lle byddwch yn cael wythnos o hyfforddiant gan Grŵp Llandrillo Menai a fydd yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle. Mae’r cwrs yn cychwyn ar ddydd Llun, 7fed o Orffennaf yn Tŷ Coch, Bangor. Bydd cyfle i chi ddod mewn i’r swyddfa a chyfarfod pawb cyn i’r cwrs gychwyn.
Cam 2 – Byddwch yn cael cyfle i fynd am wythnos o brofiad gwaith di-dal hefo ni yn Adra neu hefo un o’n partneriaid.
Cam 3 – Bydd pawb sy’n cwblhau’r pythefnos yn cael cynnig i ymgeisio am leoliad gwaith gyda thâl. Os ydych yn cael cyfweliad ac yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich lleoli o fewn Adra neu gyda un o’n partneriaid am eich lleoliad gwaith gyda thâl (24 awr yr wythnos am 16 wythnos – Cyflog Isafswm Cenedlaethol)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo ni ar:
- Ffôn – 0300 123 8084
- E-bost: academi@adra.co.uk
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 20fed o Fehefin 2025
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Swyddi
Os hoffech dderbyn diweddariadau pryd bynnag y bydd erthygl newydd yn cael ei phostio neu swydd newydd yn cael ei hysbysebu – Tanysgrifiwch isod.