Adolygu Recriwtio Aelod Bwrdd Tenant

Mae’n bwysig iawn i ni fod ein tenantiaid wrth galon ein busnes.

Mae gennym Fwrdd sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod Adra:

  • yn cael ei redeg yn gywir ac yn deg.
  • yn rhoi’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid.
  • yn cyflawni ar beth rydym wedi ei ddweud ein bod am ei wneud.

Mae yna gymysgedd o bobl ar ein Bwrdd sy’n cynnwys hyd at:

  • wyth o aelodau annibynnol
  • dau o aelodau tenantiaid
  • dau o aelodau o’r Awdurdod Lleol

 

Pam ein bod ni eisiau adolygu

Weithiau, mae angen i ni ddod o hyd i aelodau Tenantiaid newydd ar gyfer y bwrdd ond mae hyn wedi bod yn anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd Academi Bwrdd Tenantiaid i geisio denu mwy o ddiddordeb gyda’r bwriad o redeg y rhaglen bob blwyddyn. Rydym wedi bod yn trafod nifer o faterion am y Bwrdd gyda’n Partneriaeth Tenantiaid. Rydym wedi cael adborth bod y broses ar gyfer recriwtio aelodau tenantiaid yn annheg ac yn gymhleth. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod rhaid cynnal Diwrnodau Asesu ac yna etholiad ac mae hynny wedi atal tenantiaid rhag ymgeisio.

Mwy o wybodaeth am y broses yma

Rydym wedi gwrando yn ofalus ar yr adborth ac rydym yn adolygu ein prosesau recriwtio.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein prosesau yn deg ac yn gyson a sicrhau cydraddoldeb rhwng aelodau Tenantiaid ac annibynnol.

Hoffem glywed eich barn ar sut dylem ni wneud pethau yn y dyfodol.

 

Y drefn ar hyn o bryd

Dyma sut rydym yn chwilio am aelodau bwrdd tenantiaid newydd ar hyn o bryd.

  • mae tenant yn gwneud cais drwy lenwi ffurflen
  • tenant yn cymryd rhan mewn diwrnod asesu i weld os ydynt yn addas ar gyfer y rôl.
  • yna mae’r Bwrdd yn edrych ar ganlyniadau’r diwrnod asesu i weld os ydynt yn addas.
  • os yw mwy nag un tenant yn pasio, yna mae etholiad yn cael ei gynnal ymhlith tenantiaid. Byddai papur pleidleisio yn cael ei yrru i bob tenant gael pleidleisio.

Mae hon yn broses wahanol i’r un ar gyfer aelodau annibynnol sy’n cael eu recriwtio drwy gael eu cyfweld.

Ond rydym ni yn meddwl bod yn ffordd well a fwy teg o wneud hyn.

 

Sut rydym ni eisiau gwneud pethau yn y dyfodol

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod recriwtio aelod tenant yn debyg i’r ffordd o recriwtio aelod annibynnol i’r Bwrdd.

Felly, dyma sy’n cael ei gynnig fel system newydd:

  • mae tenant yn gwneud cais drwy lenwi ffurflen
  • cyfweliadau

Rhowch wybod i ni beth ydych chi yn feddwl o hyd drwy lenwi’r holiadur byr yma.

Cwblhau’r holiadur byr

Bydd yr holiadur yn fyw o 6 Mai tan 19 Mai 2021.