Diddordeb cynyddu eich sgiliau neu ddod yn Aelod Bwrdd?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth ac ychwanegu at eich CV?
- Hoffech chi gwrdd â phobl sy’n meddwl yn debyg i chi, sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau a’r sector dai?
- Oes gennych ddiddordeb yn yr hyn yr ydym yn cyflawni, sef darparu cartrefi fforddiadwy, dibynadwy i bobl leol?
Os mai ia ydi’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau yma, beth am gymryd rhan yn ein Academi Bwrdd Tenantiaid neu ddod yn aelod o’n Bwrdd? Mae gennym seddi Bwrdd wedi’u cadw’n benodol ar gyfer ein tenantiaid. Gallai hyn fod yn gyfle i chi gyfrannu, gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar fywydau ein cwsmeriaid a’n tenantiaid.
Byddai cymryd rhan yn Academi’r Bwrdd Tenantiaid hefyd yn golygu ennill cymhwyster wrth ddysgu sgiliau newydd.
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb ynddo, efallai mai ein Academi Bwrdd Tenantiaid yw’r cyfle rydych wedi bod yn chwilio amdano!
Rydym yn cynnal ein cwrs ‘Paratoi ar gyfer y Bwrdd’ – sy’n meithrin sgiliau a hyder.
Hyd yn oed os nad oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Aelod o’r Bwrdd, bydd y cwrs hwn yn helpu i ddatblygu llawer o sgiliau newydd y gellir eu hychwanegu at eich CV a’ch helpu ar eich taith gyflogaeth.
Mae’r rhaglen yn cynnwys chwe sesiwn hanner diwrnod, yn arwain at Gymhwyster lefel 2 ac mae’n:
- Hwyl
- Ddiddorol
- Ysgogol
- Meithrin sgiliau a hyder.
Tra byddech ar y cwrs byddech yn arsylwi’r Bwrdd ac un pwyllgor ac yn cwblhau llyfryn mewngofnodi/asesu.
Beth fyddai angen i chi i fod yn rhan o Raglen yr Academi neu i gyflwyno eich enw i wneud cais am rôl Aelod o’r Bwrdd?
Yr unig ofyniad yw eich bod yn un o’n tenantiaid neu gwsmeriaid , gyda diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein cwsmeriaid!
Cyfle i fod yn Aelod Bwrdd
Rydym yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd, gydag un sedd denant ar gael i’w llenwi yn ystod 2021.
Os oes gennych ddiddordeb, byddai mynychu’r cwrs hwn yn sylfaen ardderchog i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i wneud cais am ein Bwrdd. Efallai fod gennych brofiad helaeth eisoes ym maes llywodraethu sefydliadol ac rydych am wneud cais yn uniongyrchol am swydd y Bwrdd heb fynychu’r cwrs, byddai hynny’n iawn hefyd!
Amseroedd cyffrous o’n blaenau
Ein nod yw darparu cartrefi a gwasanaethau fforddiadwy a dibynadwy. Mae ein Bwrdd yn rhan hanfodol o gyflawni’r nodau hyn.
Rydym wedi lansio ein nod o adeiladu 1350 o gartrefi newydd yn y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â datgarboneiddio ein cartrefi a chreu cynllun i lunio dyfodol ein busnes. Mae angen Bwrdd cryf a dibynadwy arnom i wneud hynny, ac rydym yn chwilio am un aelod newydd o’r bwrdd i’n helpu i gyflawni hyn.
Y lefel cyflog ar gyfer y cyfle rhan-amser hwn yw £4,000 y flwyddyn (gydag ymrwymiad amser amcangyfrifedig o dau ddiwrnod y mis).
Bydd angen i chi gael gwerthfawrogiad o’r ardal rydym yn ei gwasanaethu a bydd gennych empathi â’n cymunedau, ein diwylliant a’n hiaith Gymraeg.
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig i’r ffordd rydym yn gweithio a byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn arbennig gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n fawr ar y Bwrdd. Rydym hefyd yn gyflogwr hyderus o ran anabledd.
Rydym yn hyblyg iawn gydag amseroedd cyfarfodydd a gellir cynnal cyfarfodydd drwy fideo-gynadledda neu ddulliau hyblyg eraill.
Os hoffech wybod mwy am y rôl a chael trafodaeth gyfrinachol, yna cysylltwch â Sioned Hughes o Altair (sy’n ein cefnogi yn y broses recriwtio hon) ar 07887 791381 neu ewch i wefan Altair i gael rhagor o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am, 30 Ebrill 2021.