Adra ar yr agenda yng Nghynhadledd Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru

Bu Ceri Ellis-Jackson, Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol Adra yn cyflwyno ymgyrch y gymdeithas dai i gael gwerth cymdeithasol ym mhob agwedd o’r sefydliad mewn cynhadledd yr wythnos yma.

Roedd Ceri yn un o’r siaradwyr gyda nifer o gymdeithasau tai dros ogledd Cymru yn rhan o’r diwrnod. Cafodd gyfle i eistedd ar banel ar ddiwedd y gynhadledd i drin a thrafod prif faterion a godwyd yn ystod y diwrnod.

Roedd y gynhadledd wedi cymryd lle yn yr OpTIC yn Llanelwy ar 26.10.23.

Mwy am Gwerth Cymdeithasol Adra ac i weld adroddiad 2022/2023